Neidio i'r prif gynnwy

Cadw'n Gorfforol Iach: Bwyta'n Iach

Pam mae'n bwysig bwyta'n dda? 

Mae deiet iach, cytbwys yn cefnogi ein hiechyd. Gall bwyta'n dda ein helpu i gyflawni a chynnal pwysau iach, mae'n cefnogi datblygiad system imiwnedd iach ac mae'n rhoi egni i ni gwblhau tasgau o ddydd i ddydd. Hyd yn oed os ydych yn treulio mwy o amser gartref ar hyn o bryd, mae'n bwysig bwyta'n dda er mwyn i'n corff allu gweithredu'n effeithiol. 

Beth allwch chi ei wneud i fwyta'n dda? 

Gall dewis amrywiaeth o fwydydd rydych yn eu mwynhau eich helpu i sicrhau deiet cytbwys. Lle y bo'n bosibl, ceisiwch gynllunio eich prydau ymlaen llaw fel y gallwch fod yn siŵr bod y bwydydd cywir gennych ar gael. Defnyddiwch lyfr ryseitiau neu chwiliwch am ryseitiau newydd ar y rhyngrwyd, neu rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Er mwyn helpu i gynnal eich lefelau egni, ceisiwch fwyta'n rheolaidd – yn ddelfrydol tri phryd y dydd gyda byrbrydau rhyngddynt. Cofiwch yfed digon o ddŵr a hylifau drwy'r dydd. Gall aros yn hydradol helpu i gynnal lefelau canolbwyntio a lleihau'r risg o gwympo. 


Pa ddulliau sydd ar gael i helpu?

Y GIG  

BDA (Cymdeithas Ddeieteg Prydain)  
Mae'r canllaw i faeth a hydradu da mewn henaint yn cwmpasu materion cyffredin fel diffyg maeth, diffyg hydradu a rhwymedd, yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am fwyta'n iach:  

Age UK
Mynediad i ryseitiau a bwyta'n iach ar gyllideb