Neidio i'r prif gynnwy

Pwy ydym ni

Rydym yn dîm amlddisgyblaethol profiadol, sy'n defnyddio meddwl beirniadol a thrylwyredd academaidd i gynhyrchu'r dystiolaeth sydd ei hangen i lywio camau gweithredu iechyd cyhoeddus. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd mewn dulliau ansoddol a meintiol, yn defnyddio ystadegau ac yn adolygu tystiolaeth i ateb heriau allweddol sy’n wynebu iechyd pobl Cymru.

Rydym yn gweithio ar y cyd â phartneriaid academaidd a sefydliadau elusennol yn ein rhaglenni ymchwil a gwerthuso ac rydym yn bartner arweiniol yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Llesiant y Boblogaeth gyda ffocws ar y blynyddoedd cynnar a phenderfynyddion ehangach iechyd.