Neidio i'r prif gynnwy

Beth rydyn ni'n ei wneud

Rydym yn ymgymryd ag ystod eang o brosiectau ymchwil a gwerthuso iechyd cyhoeddus sy’n cynhyrchu tystiolaeth newydd i lywio polisi ac arfer.Rydym yn gweithio ar y cyd ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyda sefydliadau academaidd a sefydliadau partner allanol. Rydym hefyd yn awyddus i hwyluso ac ymestyn ein cysylltiadau ymchwil ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol newydd.

Mae'r Is-adran Ymchwil a Gwerthuso yn cyhoeddi ac yn cyfrannu at ystod o brosiectau sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau strategol. Rydym yn derbyn cyllid gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i gefnogi’r gwaith o gyflawni Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru (2019-2025). Rydym hefyd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu ymchwil a gwerthuso o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys darparu swyddogaethau rheoli a llywodraethu ymchwil canolog. Rydym hefyd yn rheoli’r Gymuned Ymchwil a Datblygu ac yn cyflwyno’r gynhadledd Ymchwil a Gwerthuso blynyddol ar gyfer iechyd poblogaeth yng Nghymru, gan hwyluso cyfleoedd i gysylltu ymarferwyr ac ymchwilwyr sydd â diddordebau cyffredin. Am trosolwg o'r gweithgareddau ymchwil ar draws y sefydliad, gweler ein hadroddiad Uchafbwyntiau Ymchwil.