Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad yn amlygu cyflawniadau ymchwil eithriadol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol diweddaraf ar Uchafbwyntiau Ymchwil a Gwerthuso. 

Mae'r adroddiad yn drawiadol i'w ddarllen, gan gwmpasu ein cyfranogiad mewn ymchwil a gwerthuso arloesol gydag effaith sylweddol ar iechyd cyhoeddus, polisi ac ymarfer, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. 

Mae ein cyflawniadau yn cynnwys 145 o gyhoeddiadau academaidd, 23  o brosiectau ymchwil weithredol a bron £1.5m o incwm allanol a grëwyd. Mae hyn i gyd yn cefnogi nifer o'n blaenoriaethau strategol wrth i ni barhau i ddatblygu'r dystiolaeth sydd ei hangen i fynd i'r afael â heriau iechyd cyhoeddus sylweddol rydym yn eu hwynebu.

Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth yr Adran Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn gyffrous oherwydd dyfnder ac ehangder y wybodaeth newydd a gynhyrchwyd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae ein hymchwil a gwerthuso ar y cyd ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys nifer o feysydd gydag effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar iechyd, gan gynnwys clefydau heintus, Brexit, digartrefedd a mynediad i wasanaethau iechyd, i enwi ond ychydig.”

Ymhlith yr uchafbwyntiau ymchwil o'r flwyddyn ddiwethaf mae: 
•    Ein hymchwil ar y defnydd o dechnoleg ledled Cymru.
•    Iechyd a llesiant pobl ifanc yng Nghymru—a ydynt yn credu y bydd Brexit yn gwneud gwahaniaeth? 
•    Y defnydd o fonitorau gweithgarwch corfforol i gefnogi ymddygiad iach.
•    Hap-dreial wedi'i reoli o effeithiolrwydd brechlynnau meningococaidd grŵp B.
•    Astudiaeth yn trafod profiadau iechyd ceiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru.

Mae'r adroddiad hwn yn cael ei ddwyn ynghyd gan yr Adran Ymchwil a Gwerthuso ac mae'n dangos ymchwil o bob rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys: ysgolion, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, Llywodraeth Cymru, y sectorau cludiant a phreifat, Cyngor Ffoaduriaid Cymru, byd academaidd, ac Iechyd a Gofal Gwledig Cymru. 

Ychwanegodd Dr Davies,

“Mae ein gwaith yn torri ar draws agendâu polisi ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid. Drwy baratoi gwybodaeth newydd a cheisio ateb cwestiynau mawr, mae ein hymchwil yn chwarae rhan sylfaenol yn y gwaith o gyflawni gweledigaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer dyfodol iachach i Gymru.

“Drwy weithio gydag eraill rydym wedi gallu canolbwyntio sylw ar feysydd o ymchwil lle gall ein hymdrechion ar y cyd gyflawni'r effaith fwyaf i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaus i fywydau pobl.” 

Gorffennodd Dr Davies drwy ddweud:

“Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ymrwymiad cryf i gryfhau a chefnogi'r diwylliant ymchwil yn y sefydliad. Byddwn yn parhau i wneud hyn drwy weithredu ein strategaeth ymchwil a gwerthuso sefydliadol, wrth i ni barhau i edrych ymlaen ac adeiladu ar y llwyddiannau niferus hyn.”

Adroddiad