Neidio i'r prif gynnwy

Gwaith teg ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch

Gwaith teg ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch

 

Mae gwaith yn gonglfaen allweddol ar gyfer iechyd a llesiant. Yn ei dro, mae iechyd da yn cefnogi gwaith a'r economi. Ond nid dim ond unrhyw fath o waith sy'n bwysig i iechyd a llesiant – mae'n ymwneud â gwaith teg. Gwaith teg yw lle mae “gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, yn cael eu clywed ac yn cael eu cynrychioli’n deg, bod ganddynt sicrwydd a'u bod yn gallu dod yn eu blaen mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau’n cael eu parchu” (Gwaith Teg Cymru, 2019, t2).

Mae gan sefydliadau o bob maint rôl bwysig i'w chwarae o ran cynyddu cyfranogiad mewn gwaith teg ar gyfer Cymru fwy cyfartal, ffyniannus, cynaliadwy a gwyrdd.

Os ydych chi'n fusnes neu'n gyflogwr ac yr hoffech gael cyngor a chymorth yn ymwneud â gwaith teg ac iechyd a llesiant yn y gweithle, gall Cymru Iach ar Waith eich helpu. Rydym wedi datblygu canllaw ar gyfer asiantaethau lleol a rhanbarthol i'w helpu i ddeall y camau y gallant eu cymryd i gynyddu cyfranogiad mewn gwaith teg.