Neidio i'r prif gynnwy

Ein dull a dogfennau technegol

Ein dull a dogfennau technegol

 

Ein dull

Ym mis Medi 2021, sefydlodd Iechyd Cyhoeddus Cymru banel arbenigol i elwa ar ystod o arbenigeddau gan gynnwys y byd academaidd, busnes, y sector cyhoeddus a sectorau eraill. Archwiliodd y panel y dystiolaeth i lunio argymhellion ar gyfer asiantaethau a phartneriaethau lleol a rhanbarthol i wella cyfranogiad mewn gwaith teg mewn ffordd sy'n cefnogi iechyd, llesiant a thegwch

Canolbwyntiodd y panel ar effaith COVID-19 ar bobl ifanc a phlant, gan ystyried dull Cenedlaethau'r Dyfodol a'r potensial ar gyfer effeithiau andwyol hirdymor, gan gynnwys creithiau economaidd.

Cafodd y panel dystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arbenigwyr pwnc, nododd dystiolaeth ychwanegol, defnyddiodd arbenigedd yr aelodau eu hunain i lunio themâu a chyfleoedd a chefnogodd Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth lunio argymhellion. Cynhyrchwyd adroddiad interim a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru i lywio'r gwaith o ddatblygu Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau (2022)

Er mwyn cefnogi'r gwaith o ddatblygu adnoddau gwaith teg ar gyfer asiantaethau lleol a rhanbarthol, casglwyd gwybodaeth gan amrywiaeth o gyfranogwyr gan gynnwys cynghorwyr lleol a swyddogion polisi. Cynhaliwyd chwiliad cyflym o'r llenyddiaeth lwyd hefyd i nodi manteision economaidd a chymdeithasol nodweddion gwaith teg.

 

 

 

 

Gwybodaeth bellach a ddefnyddiwyd i lywio'r gwaith o ddatblygu adnoddau gwaith teg

Cyfranogi mewn gwaith teg ar gyfer iechyd, llesiant a thegwch - darlun o’r sefyllfa gan gynghorwyr lleol, aelodau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, swyddogion polisi a chynrychiolydd Bargeinion Dinesig a Thwf

Tabl – Crynodeb o dulliau a manteision gwaith teg