Neidio i'r prif gynnwy

Pam nad yw merched yn cael eu sgrinio?

Mae dynion chwe gwaith yn fwy tebygol na merched o gael YAA.

Mae YAA wedi rhwygo yn llai cyffredin mewn merched na dynion ac, ar gyfartaledd, mae’n digwydd ddeng mlynedd yn ddiweddarach nag mewn dynion.

Nid yw’r Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol yn argymell cynnig sgrinio ar gyfer YAA i ferched.

Dylai merched sydd â hanes o YAA yn y teulu drafod gyda’u meddyg, a fydd yn gallu rhoi cyngor iddynt.