Os byddwch yn dewis peidio â chymryd rhan mewn sgrinio YAA, gallwch ‘optio allan’. Mae hyn yn golygu y byddwn yn tynnu eich manylion oddi ar ein rhestr wahoddiadau ac ni fyddwn yn anfon unrhyw wybodaeth bellach i chi am sgrinio YAA.
I optio allan, gallwch gysylltu â ni drwy:
ffonio rhifau’r swyddfeydd sgrinio lleol
anfon neges e-bost at aaa.screening@wales.nhs.uk gyda’ch enw llawn, eich dyddiad geni, eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn cyswllt.
Os byddwch yn optio allan ac yna’n newid eich meddwl, bydd angen i chi gysylltu â ni i drefnu ar gyfer apwyntiad sgrinio.