Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor ddibynadwy yw sgrinio serfigol?

Mae sgrinio serfigol yn brawf da iawn ar gyfer nodi newidiadau yn y celloedd a all arwain at ganser ceg y groth, ond nid yw'n berffaith.

Mewn achosion prin, efallai na fydd y prawf sgrinio yn nodi newidiadau yn y celloedd, na hyd yn oed canser.

Hyd yn oed os nad yw HPV risg uchel yn cael ei ganfod ar eich prawf sgrinio neu os ydych wedi cael profion sgrinio normal yn y gorffennol, mae'n bwysig iawn rhoi gwybod i'ch meddyg am unrhyw symptomau newydd. Mae'r symptomau hyn yn cynnwys –

  • Gwaedu ar ôl cael rhyw
  • Gwaedu rhwng mislifoedd
  • Gwaedu ar ôl y menopos
  • rhedlif o'r wain sy'n anarferol i chi – efallai y bydd ganddo arogl, golwg neu dewdra gwahanol (er enghraifft, gall fod yn fwy trwchus)
  • Poen yn ystod neu ar ôl rhyw
  • Poenau yn rhan isaf y cefn neu yn y bol