Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i dadau sy'n cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio ar gyfer anhwylder y crymangelloedd a thalasaemia difrifol

Gwybodaeth i dadau sy’n cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio ar gyfer anhwylder y crymangelloedd a thalasaemia difrifol


Cyhoeddi Ionawr 2022
 

Cynnwys

― Ar gyfer pwy mae'r wybodaeth hon
Pam eich bod wedi cael eich gwahodd i gael prawf
― Yr hyn y mae'r prawf yn ei olygu
― Canlyniadau posibl
― Beth mae'n ei olygu os ydych yn gludydd
― Beth sy'n digwydd nesaf os yw’r ddau ohonoch yn gludwyr
― Os nad ydych am gael profion pellach yn ystod y beichiogrwydd
― Eich iechyd os ydych yn gludydd
― Rhagor o wybodaeth

 

Ar gyfer pwy mae'r wybodaeth hon

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer tadau sy’n cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio ar gyfer cyflyrau haemoglobin fel anhwylder y crymangelloedd a thalasaemia difrifol.

Mae’r prawf yn rhoi gwybodaeth a allai fod yn bwysig i iechyd eich babi heb ei eni ac unrhyw blant y byddwch yn eu cael yn y dyfodol. Rydym yn esbonio’r prawf, y rheswm dros ei gynnig, yr hyn mae’n gallu ei ddangos a’r dewisiadau y gallwch eu gwneud.

Os ydych am gael y prawf, mae’n bwysig ei gael cyn gynted â phosibl – gorau po gyntaf yn ystod beichiogrwydd eich partner (rydym yn argymell o fewn tri diwrnod gwaith i gael cynnig y prawf gan y gweithiwr iechyd proffesiynol).Dylech fod eisoes wedi cael cynnig prawf, felly cadarnhewch gyda'r gweithiwr iechyd proffesiynol y byddwch yn mynd iddo.

Pam eich bod wedi cael eich gwahodd i gael prawf

Mae canlyniadau prawf mam eich babi yn dangos ei bod yn cario genyn ar gyfer math anarferol o haemoglobin. Haemoglobin yw'r sylwedd yn y gwaed sy’n cludo ocsigen a haearn o amgylch y corff. Mae angen i ni wybod ydych chi hefyd yn cario’r genyn ar gyfer math anarferol o haemoglobin.

Ar gyfer pob beichiogrwydd, mae angen i ni brofi’r ddau riant biolegol i weld a oes siawns bod gan eich babi un o'r cyflyrau.

Os yw’r ddau riant yn cario’r genyn ar gyfer haemoglobin anarferol, mae siawns 1 mewn 4 (25%) y gallai eich babi etifeddu anhwylder haemoglobin fel anhwylder y crymangelloedd neu thalasaemia difrifol. Mae’r rhain yn gyflyrau iechyd difrifol sy’n para am oes.

Yr hyn y mae'r prawf yn ei olygu

Mae'n brawf gwaed sy’n cymryd ychydig funudau. Dylech gael eich canlyniad o fewn tri i bum diwrnod gwaith.

Canlyniadau posibl

Bydd y prawf yn dangos a oes gennych haemoglobin arferol neu a ydych yn cludo genyn ar gyfer math anarferol o haemoglobin.

Os oes gennych enyn ar gyfer haemoglobin anarferol, rydych yn gludydd. Mae hyn weithiau’n cael ei ddisgrifio fel ‘nodwedd’.

Bydd y prawf yn dangos nad yw’r rhan fwyaf o bobl yn gludwyr.

“Mae gwybod eich statws yn eich paratoi’n feddyliol ar gyfer yr hyn sydd o’ch blaen wrth ddod yn dad.  Yn dibynnu ar y wybodaeth am sefyllfa’r dyn a’r fenyw, byddwch yn gwybod beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn cael plentyn ac yn gallu paratoi eich hun ar gyfer hynny.”
– Olufumi, tad sydd ag anhwylder y crymangelloedd ac y mae ei fab wedi etifeddu'r nodwedd
 

Beth mae'n ei olygu os ydych yn gludydd

Mae’n rhaid i ni sôn am enynnau er mwyn esbonio hyn.

Mae genynnau yn gweithio mewn parau. Rydych yn cael un genyn gan eich mam ac un genyn gan eich tad ar gyfer pob nodwedd y byddwch yn ei etifeddu (er enghraifft, lliw eich croen, gwallt a llygaid).

Mae’r bobl sy’n gludwyr wedi etifeddu un genyn haemoglobin anarferol gan un rhiant. Gan eu bod wedi etifeddu un genyn haemoglobin arferol hefyd gan y rhiant arall, ni fyddan nhw byth yn datblygu anhwylder haemoglobin eu hunain.

Ond, os bydd y cludydd yn cael babi gyda pherson arall sy’n gludydd hefyd, mae gan y babi siawns 1 mewn 4 (25%) o gael cyflwr haemoglobin fel anhwylder y crymangelloedd neu thalasaemia difrifol.

Y risgiau i'ch babi os yw'r ddau ohonoch yn gludwyr

Mae tri phosibilrwydd. Gallai eich babi:

  • etifeddu cyflwr haemoglobin fel anhwylder y crymangelloedd neu thalasaemia difrifol – siawns 1 mewn 4 (25%);
  • bod yn gludydd – siawns 2 mewn 4 (50%); neu
  • bod heb y cyflwr na bod yn gludydd – siawns 1 mewn 4 (25%).

Mae’r posibiliadau hyn yn cael eu dangos yn y diagram isod. Mae’r siawns yr un fath ym mhob beichiogrwydd gyda’r partner hwn. Mae’r ddau riant yn gludwyr yn y diagram isod. Maen nhw wedi’u lliwio mewn dau liw i ddangos bod ganddyn nhw un genyn arferol (gwyn) ac un genyn anarferol (coch).

Darlun yn dangos y siawns y bydd babi yn etifeddu cyflwr gan rieni y mae'r ddau ohonynt yn gludwyr

Beth sy'n digwydd nesaf os yw’r ddau ohonoch yn gludwyr

Byddwn yn cynnig apwyntiad i chi ble bydd gweithiwr proffesiynol hyfforddedig yn esbonio mwy am fod yn gludydd a’r cyflwr y gall eich plentyn ei etifeddu. Byddwn hefyd yn cynnig profion mewnwthiol. Bydd yn dangos ydy eich babi wedi etifeddu unrhyw enynnau haemoglobin anarferol neu beidio.

Os nad ydych am gael profion pellach yn ystod y beichiogrwydd

Gallwch ddewis cael profion mewnwthiol ai peidio. Os na fyddwch, y prawf nesaf y byddwn yn ei gynnig yw pan gaiff eich babi ei eni. Bydd hyn yn dangos a yw eich babi wedi etifeddu cyflwr haemoglobin. Mae’r prawf yn cael ei wneud drwy gymryd ychydig ddiferion o waed o sawdl eich babi, pan fydd yn bum diwrnod oed. Gelwir y prawf yn sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig.

Eich iechyd os ydych yn gludydd

Os bydd y prawf yn dangos eich bod yn gludydd, ni ddylech boeni am eich iechyd personol. Rydych yn iach, nid oes gennych salwch, ac ni fyddwch byth yn datblygu anhwylder y crymangelloedd.

“Roeddwn i wedi fy synnu’n fawr clywed fy mod i’n cludo thalasaemia gan na fu unrhyw salwch yn ein teulu ni – roeddwn yn sicr y byddai’r prawf yn negatif. Cawsom fabi iach ond dysgodd fy ngwraig a finnau lawer am thalasaemia rhag ofn y byddem yn cael mwy o blant. Mae fy mrawd wedi cael prawf ers i mi gael gwybod ac mae e’n gludydd hefyd.”
– Mohammed Z, tad sy'n cludo'r genyn thalasaemia

Rhagor o wybodaeth a chymorth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chymorth sydd ar gael o'r canlynol.

https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/t/article/thalassaemia/

https://cavuhb.nhs.wales/our-services/laboratory-medicine/haematology/sickle-cell-and-thalassaemia/sickle-cell/

https://ukts.org/