Neidio i'r cynnwys

Sgrinio cyn geni

Beth yw sgrinio cyn geni

Bydd menywod sy’n feichiog yn cael cynnig profion sgrinio cyn-geni  yn ystod eu beichiogrwydd er mwyn rhoi mwy o wybodaeth am eu iechyd ac iechyd y babi. Bydd bydwraig yn esbonio’r gwahanol brofion y gallwch eu cael fel rhan o’ch gofal cynenedigol arferol. Gall sgrinio gynnwys sganiau uwchsain a phrofion gwaed. Mae’n bwysig penderfynu pa brofion, os o gwbl, sy’n iawn i chi.

Mae cymryd rhan mewn sgrinio yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud i ofalu amdanoch chi ac iechyd eich baban.

Am fwy o wybodaeth neu gefnogaeth, siaradwch â’ch bydwraig neu feddyg.

Mae’r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd i chi a’ch babi.

Pa brofion sgrinio cyn geni sy’n cael eu cynnig?

Bydd profion yn cael eu cynnig ar wahanol gamau yn ystod eich beichiogrwydd.

Mae’r prawf sgrinio cyn geni’n cynnwys:

  • Sgrinio am syndrom Down, syndrome Edwards a syndrome Patau
  • Profion gwaed sy’n chwilio am:
    • Heintiau (HIV, Hepatitis B, Siffilis)
    • Anhwylderau ar y gwaed (cryman-gell a thalasaemia)
    • Grwpiau gwaed , Grŵp rhesws (Rh) D grwp a gwrthgyrff
  • Sganiau uwchsain sy’n chwilio am;
    • Dyddiad y beichiogrwydd, nifer y babanod, annormaleddau yn y babi.

Nid fydd angen profion pellach ar y mwyafrif o ferched. Fodd bynnag, os yw’ch prawf sgrinio yn awgrymu bod gennych chi, neu’ch babi siawns uwch o gawl cyflwr penodol, cynigir profion pellach.

Ynglŷn â’r prawf

Ymwelwch â’ch bydwraig yn gynnar i’ch helpu i wneud y dewisiadau gorau ar gyfer eich beichiogrwydd.

  • Mae sgrinio cyn geni yn rhoi gwybodaeth bwysig i chi am eich iechyd chi a’ch babi.
  • Gwnewch apwyntiad gyda bydwraig cyn gynted ag y byddwch yn darganfod eich bod yn feichiog.
  • Byddwch yn cael gwybodaeth i’ch helpu i wneud dewis am gymryd rhan mewn sgrinio cyn geni.
  • Bydd y fydwraig yn siarad â chi am y gwahanol brofion y gallwch eu cael ac yn ateb eich cwestiynau fel rhan o’ch gofal cynenedigol arferol.
  • Nid yw profion sgrinio cyn geni 100% yn gywir ac efallai y bydd rhai cyflyrau’n cael eu methu.
  • Efallai y cynigir profion neu driniaeth bellach i chi ar ôl eich sgrinio cyn geni.

Mae staff gofal iechyd yn dilyn canllawiau atal a rheoli heintiau. Mae hyn yn golygu eu bod yn dilyn arferion glanhau dwylo llym ac yn glanhau holl ardaloedd ac offer y clinig yn rheolaidd. 

Os ydych chi’n mynychu clinig cymunedol, siaradwch â’ch bydwraig am sut y bydd sgrinio’n digwydd yn eich Bwrdd Iechyd. Bydd yn esbonio beth maent yn ei wneud i’ch cadw’n ddiogel.

Cysylltwch â’ch bydwraig os ydych chi’n teimlo’n sâl neu os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am eich apwyntiad sgrinio cynenedigol.

Rhesymau dros gymryd rhan

Yn ystod eich beichiogrwydd, cewch gynnig nifer o brofion sgrinio gwahanol. Eich dewis chi yw sgrinio. Gall fod yn anodd penderfynu pa brofion i’w cael. Nid yw rhai menywod am wybod a oes ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio arnyn nhw neu eu babi. Bydd eraill am wybod a oes ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd a allai effeithio arnyn nhw neu eu babi er mwyn iddynt allu gwneud penderfyniadau ar driniaeth neu, os oes canfyddiadau heb esboniad, i baratoi ar gyfer yr enedigaeth neu ystyried dod â’r beichiogrwydd i ben.

Cymerwch amser i feddwl cyn i chi benderfynu. Gallwch siarad am y profion â’ch bydwraig, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Pan fyddwch wedi dewis pa brofion rydych am eu cael, bydd y fydwraig yn gwneud trefniadau ar eich rhan.

Eich apwyntiad a’ch canlyniadau prawf

Bydd eich bydwraig yn dweud wrthych ble y gallwch chi gael y profion wedi’u gwneud sut a phryd y byddwch chi’n cael canlyniadau eich profion.



Adroddiadau

Ystod o adroddiadau a gynhyrchwyd gan Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru wedi cyhoeddi polisïau, safonau a phrotocolau ar gyfer sgrinio cyn geni a ddarperir gan wasanaethau mamolaeth yng Nghymru ers 2005. Cyhoeddwyd y fersiwn fwyaf diweddar ym mis Awst 2023. Cafodd y cyhoeddiad blaenorol ei dynnu’n ôl ar 16 Awst 2023.

Data

Data am gwmpas sgrinio cyn geni a’r nifer sy’n cael eu sgrinio

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn