Neidio i'r prif gynnwy

Sganiau Beichiogrwydd yn ystod Pandemig Covid-19 – diweddarwyd ddydd Gwener 24 Gorffennaf 2020

Mae Sgrinio Cyn Geni Cymru yn deall y gall bod yn feichiog yn ystod pandemig COVID-19 fod yn gyfnod pryderus ac mae eich bwrdd iechyd yn gwneud popeth o fewn ei allu i'ch cadw'n ddiogel.

Mae canllawiau cenedlaethol ar gael ar gyfer cynnal sganiau uwchsain, ac mae'r canllawiau hyn yn nodi ffyrdd o'u gwneud mor ddiogel â phosibl i fenywod ac i'r rhai sy'n cynnal y sganiau yn ystod y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i ganllawiau ymweld ag ysbytai yn ystod pandemig y coronafeirws, sy'n dechrau ddydd Llun 20 Gorffennaf 2020. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu offeryn asesu risg i fyrddau iechyd ei ddefnyddio i helpu i wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r canllawiau hyn. Bydd eich darparwyr iechyd yn trafod y canllawiau lleol â chi a'r rhesymau pam eu bod yn eu lle. Er mwyn i bethau fod mor ddiogel â phosibl i chi a gweithwyr iechyd proffesiynol, ceir canllawiau ynghylch ffilmio eich sgan. Gall fod rhai gwahaniaethau o ran sut y mae pethau'n cael eu cynnal mewn gwahanol rannau o Gymru oherwydd sut y mae adrannau wedi'u sefydlu neu lefelau staffio.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech drafod eich trefniadau lleol, gallwch gysylltu â'ch bydwragedd ar y rhifau a roddwyd i chi ar ddechrau eich beichiogrwydd.

Gweler y cwestiynau cyffredin.