Neidio i'r prif gynnwy

Ynglŷn â'r prawf

Ewch yn brydlon at eich bydwraig er mwyn cael help i wneud y dewisiadau gorau yn eich beichiogrwydd.

Y prif negeseuon:

  • Mae’r prawf sgrinio cyn-geni’n rhoi gwybodaeth bwysig i chi am eich iechyd chi ac iechyd eich babi.
  • Trefnwch apwyntiad gyda bydwraig cyn gynted ag y byddwch yn dod i wybod eich bod yn feichiog.
  • Byddwch chi’n cael gwybodaeth a fydd yn eich helpu i ddewis a fyddwch chi’n cymryd rhan yn y broses sgrinio cyn-geni.
  • Fel rhan o’ch gofal cyn-geni arferol bydd y fydwraig yn rhoi gwybod i chi am y gwahanol brofion y gallwch chi eu cael a bydd yn ateb eich cwestiynau.
  • Nid yw’r profion sgrinio cyn-geni’n gwbl gywir bob tro ac maen nhw’n gallu methu rhai cyflyrau.
  • Ar ôl eich prawf sgrinio cyn-geni efallai byddwch chi’n cael cynnig o fwy o brofion a/neu driniaeth.

Mwy o wybodbaeth:

Mae’r prawf sgrinio cyn-geni’n cynnwys::

  • Sgrinio am syndrom Down, syndrome Edwards a syndrome Patau
  • Profion gwaed sy’n chwilio am:

             - Heintiau (HIV Hep B a Siffilis)

             - Anhwylderau ar y gwaed (cryman-gell a thalasaemia) ac

             - Grwpiau gwaed a gwrthgyrff.

  • Sganiau uwchsain sy'n chwilio am:

           - Dyddiadd y beichogrwydd , nifer y babanod, anormaleddau yn y babi.

  • Mae canlyniadau’r mwyafrif o brofion yn normal.
  • Efallai bydd gofyn ailadrodd rhai profion er mwyn cadarnhau’r canlyniad.
  • Os bydd prawf sgrinio’n awgrymu y gallai fod problem neu gyflwr yn effeithio ar eich babi efallai byddwch chi’n cael cyfle i gael mwy o brofion a sganiau.
  • Efallai bydd angen eich cyfeirio at feddyg arbenigol i gael eich monitro neu i gael triniaeth.
  • Pan fydd rhai cyflyrau’n dod i’r amlwg, efallai byddwch chi’n wynebu gwneud dewisiadau anodd ynglyn â gadael i’ch beichiogrwydd barhau.