Neidio i'r cynnwys

Newid iaith y wefan

Fideos Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Wedi colli un o’n digwyddiadau byw neu eisiau ei wylio eto? Daliwch i fyny unrhyw bryd trwy wylio’r sesiynau wedi’u recordio. Mae ein digwyddiadau’n archwilio safbwyntiau amrywiol o feysydd polisi, ymchwil ac ymarfer, i gefnogi gweithredu a fydd yn gwella iechyd a llesiant y boblogaeth.

Tanysgrifio i’n sianel YouTube i gael eich hysbysu am y fideos diweddaraf gennym ni.

Fideo diweddaraf

Chwefror 2026
Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi Adnoddau Iechyd Newydd i Rieni – i gefnogi Teuluoedd ledled Cymru

Tynnodd y weminar hon yn dangos bod ymgorffori’r adnoddau hyn yn eich rhaglenni a’ch gwasanaethau a’u cynnig i deuluoedd yn eich helpu i greu cynnig cyson a dibynadwy i rieni ledled Cymru. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i leihau camwybodaeth ac yn cefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau i’w plant. Yn Saesneg yn unig mae’r fideo isod ar gael.

Mae trawsgrifiad o’r fideo ar gael wedi cais.

Pob fideo:

2026

Ionawr 2026 – Cyflwyno’r ‘Gacen Dystiolaeth’ gyda Chydweithrediad Ymchwil ar Benderfynyddion Iechyd Rhondda Cynon Taf

Yn y weminar hon cawsom ein cyflwyno i’r ‘Gacen Dystiolaeth’ sef offeryn ymarferol a ddefnyddir i gefnogi adeiladu’r sylfaen dystiolaeth i lywio gwneud penderfyniadau yn lleol ac sy’n cynnig iaith gyffredin ar gyfer trafod ymchwil a thystiolaeth ar draws sectorau, y gellir ei haddasu i ddiwallu anghenion lleol.

2025

Rhagfyr 2025 – Lansio Teg i Bawb / Fair For All: Cynllun Gweithredu Strategol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy Ofal Sylfaenol

Mae’r weminar hon yn lansio cynllun gweithredu Gofal Sylfaenol Tecach – Teg i Bawb, Fair for All yn ogystal â datblygu drwy adolygu’r dystiolaeth, y data a rowndiau ailadroddus o weithdai wyneb yn wyneb ac ar-lein. Mae’n bwriadu ymgysylltu a chydweithio helaeth â chleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, uwch arweinwyr, grwpiau cymunedol, ac arbenigwyr trwy brofiad ar draws y system Gofal Sylfaenol yng Nghymru.

Tachwedd 2025 – Pa rôl mae bioamrywiaeth yn ei chwarae wrth greu cymunedau iach a chynaliadwy

Mae’r weminar hon yn archwilio’r cysylltiad rhwng natur ac iechyd a’i le wrth greu cymunedau iach, cynaliadwy.

Hydref 2025 – Potensial ymyriadau tai ar gyfer iechyd y cyhoedd: A allai Cymru arwain y byd?

Bydd cyfle i’r rhai sy’n mynychu ddysgu am waith sy’n mynd rhagddo yng Nghymru mewn perthynas â thai ac iechyd, cymryd rhan mewn trafodaethau gyda mynychwyr eraill a rhannu profiadau.

Hydref 2025 – Amgylchedd Bwyd Ysgolion yn Helpu i Lunio Dyfodol Iachach: Rhannu Dysgu o Dystiolaeth i Ysgogi Gweithredu

Rhoddodd y weminar drosolwg o’r effaith bosibl y mae’r amgylchedd bwyd ysgol yn ei chael ar iechyd a lles plant, oedolion a chymdeithas, gan ddisgrifio safbwyntiau ar rai o’r heriau a’r cyfleoedd wrth greu amgylcheddau bwyd ysgol iachach.

Medi 2025 – Cymru Iachach ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol: canfyddiadau ac argymhellion Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025

Yn y weminar hon, cyflwynodd Marie Brousseau-Navarro (Dirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol) y canfyddiadau a’r argymhellion ym Mhennod Iechyd Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025. Roedd y weminar hefyd yn ymdrin â brys cyflwr presennol iechyd yng Nghymru a thrafododd rai o’r atebion a’r arferion da y mae angen i ni fynd i’r afael â nhw mewn sefydliadau’r sector cyhoeddus.

Gorffennaf 2025 – Iechyd yr Ymennydd a Lleihau Risg Dementia – Sut allwn ni effeithio ar newid?

Mae ymwybyddiaeth gyhoeddus gyfyngedig o’r ffactorau risg sy’n cyfrannu at ddementia, er gwaethaf tystiolaeth gynyddol bod tua 45% o achosion yn gysylltiedig â ffactorau y gellir eu newid – fel colli clyw, ysmygu, anweithgarwch ac iechyd cardiofasgwlaidd. Mae atal yn bosibl ac yn bwerus. Mae angen allgymorth wedi’i dargedu ar gyfer cymunedau amrywiol, ac ar yr un pryd mynd i’r afael â stigma ac ofn ynghylch cael diagnosis. Er bod dementia yn un o’r heriau iechyd mwyaf sy’n ein hwynebu, mae’n parhau i fod yn isel ar yr agenda gyhoeddus – gan danlinellu’r angen am weithredu brys a theg a sy’n canolbwyntio ar atal ar draws y system.

 

2024

Rhagfyr 2024 – Cefnogi rheoli pwysau ôl-enedigol

Mae cefnogi rheoli pwysau ôl-enedigol yn faes pwysig ac mae llawer o gyfleoedd i gefnogi menywod a theuluoedd yn y cyfnod hwn o fywyd. Roedd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar iechyd a lles ôl-enedigol lle buom yn archwilio pwysigrwydd cefnogi rheoli pwysau ôl-enedigol, beth sydd angen ei wneud i ddarparu’r cymorth hwn, a beth allai’r camau nesaf ar gyfer gwneud hyn ei olygu.

Tachwedd 2024 – Fforwm Iechyd y Cyhoedd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Hyrwyddodd y Fforwm Iechyd Rhyngwladol yn brofiadau cydweithwyr ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, rhannodd eu ddysgu o gymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymchwil iechyd rhyngwladol a rhoddodd amser i drafod cyfleoedd ar gyfer y dyfodol i gymryd rhan mewn partneriaethau rhyngwladol a rhwydweithiau. Bydd y gwaith hwn yn galluogi ac yn cefnogi gweithredu Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Tachwedd 2024 – Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru yn dathlu 20 mlynedd

Mae’r dirwedd Asesu’r Effaith ar Iechyd (HIA) wedi newid yn aruthrol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU) wedi bod yn rhan ganolog o HIA ers sefydlu’r uned yn 2004. Roedd y gweminar hwn yn gyfle i fynychwyr edrych ar sut mae WHIASU wedi datblygu fel Uned dros yr 20 mlynedd diwethaf. Cafwyd diweddariad ar ddatblygiadau diweddaraf y Rheoliadau HIA gan gynrychiolydd o Lywodraeth Cymru, ceir golwg gyntaf ar ddogfen astudiaethau achos HIA ar gyfer cyrff cyhoeddus gyda dwy enghraifft fyw, yn ogystal â thrafodaeth banel yn edrych ar ble y gallai HIA fod mewn 20 mlynedd arall. Roedd cyfle hefyd i fynychwyr ofyn unrhyw gwestiynau yn ymwneud â HIA i’r panel o arbenigwyr.

Tachwedd 2024 – Hapus: Sgwrs Genedlaethol ar Lesiant Meddyliol

Roedd y weminar hon yn rhoi trosolwg byr o lesiant meddwl a Sgwrs Genedlaethol Hapus.  Rhoddodd wybodaeth am ein Hasesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, a’r camau yr ydym yn eu cymryd i liniaru effeithiau negyddol.  Buom yn siarad am rôl Cefnogwyr Hapus, yn gwahodd sefydliadau i ymgeisio ac yn amlinellu manteision dod yn Gefnogwr Hapus.

Hydref 2024 – Cyflwyniad i egwyddorion ymddygiad, newid ymddygiad a gwyddor ymddygiad cymhwysol

Roedd y gweminar hwn yn archwilio rôl hanfodol ymddygiadau wrth wella iechyd a llesiant Cymru, archwilio’r hyn a olygwn wrth ymddygiad ac ystyried yr ystod o ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad gan ddefnyddio modelau a fframweithiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Hydref 2024 – Deddf Gofal Gwrthgyfartal yng Nghymru: Ffordd ymlaen

Mae anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru ar gynnydd, ac er bod yr achosion sylfaenol yn aml y tu allan i’r system gofal iechyd, mae rôl hollbwysig i ofal sylfaenol wrth fynd i’r afael â’r gwahaniaethau hyn. Drwy gymryd camau rhagweithiol, gallwn helpu i liniaru a lleihau’r gwahaniaethau hyn, gan sicrhau gofal iechyd teg i bawb. Fodd bynnag, os nad ydym yn ofalus, gallai ein camau gweithredu ehangu’r bylchau hyn yn anfwriadol. Mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod yr effaith y gall gofal sylfaenol ei chael a chymryd camau bwriadol i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Roedd y gweminar hwn yn archwilio’r Rhaglen Deddf Gofal Gwrthgyfartal yng Nghymru.

Medi 2024 – Gadael neb ar ôl – Dyfodol cysylltiadau cymdeithasol a chymunedau yng Nghymru

Mae cysylltiadau cymdeithasol yn chwarae rôl hanfodol yn ein hiechyd a’n lles a gallant fod yn ffactor sy’n cyfrannu at brofiad rhai pobl o ddeilliannau iechyd gwaeth. Mae newidiadau eisoes yn digwydd sy’n effeithio ar y ffyrdd rydym ni’n uniaethu â’n gilydd. Rydym ni’n byw bywydau mwyfwy digidol, mae ein bywyd gwaith yn newid ac mae newidiadau mewn demograffeg, cyfansoddiad teuluol a’r ffordd rydym ni’n ymgyslltu â gwleidyddiaeth a’n sefydliadau yn golygu bod angen i ni feddwl am yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaen i’n bywyd cymdeithasol, ein perthnasoedd a’n cymunedau. Mae ymagwedd gynhwysol at amddiffyn a hybu cysylltiadau cymdeithasol mewn byd sy’n cyflym newid yn bwysig i’n hiechyd a’n lles yn y dyfodol.

Medi 2024 – Datblygu Gwyliadwriaeth Hinsawdd ar gyfer Cymru: O ddata i weithredu

Roedd y digwyddiad hwn yn arddangos y safbwyntiau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru, gan bwysleisio sut mae gwyliadwriaeth iechyd y cyhoedd yn hanfodol i addasu i risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd a’u lliniaru.

Gorffennaf 2024 – Llesiant yn y Gwaith: Cefnogi iechyd a llesiant yn y gwaith

Wedi’i chadeirio gan Mary-Ann McKibben, Ymgynghorydd-arweinydd Cymru Iach ar Waith (Iechyd Cyhoeddus Cymru), gwrandawodd y weminar hon gan academyddion sydd wedi gwneud gwaith ymchwil a gwerthuso i ddeall beth sy’n gweithio mewn perthynas â dulliau iechyd yn y gweithle.

Mehefin 2024 – Cynhwysiant Iechyd: Pam mae’n bwysig?

Amlygodd y weminar hon sut y gall arferion cynhwysol a gwasanaethau cynhwysiant iechyd wella deilliannau gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal, gwella cyfathrebu a lleihau anghydraddoldebau yn sylweddol.

Mehefin 2024 – Y tu hwnt i’r presennol: Sut i gymhwyso meddwl hirdymor i leihau anghydraddoldebau iechyd yn y dyfodol

Rydym yn wynebu cyfnod heriol yng Nghymru, gyda’n gwasanaethau gofal iechyd, y sector cyhoeddus ehangach, a’r trydydd sector dan straen nas gwelwyd o’r blaen. Mae hyn yn ei gwneud hi’n bwysicach nag erioed, ond hefyd yn anoddach nag erioed, i gydbwyso rheoli argyfyngau heddiw ag atal argyfyngau’r dyfodol. Mae offer ac adnoddau ar gael a all ein helpu i wneud hyn. Os ydych chi eisiau dysgu amdanynt, ymunwch â ni ar y weminar hon.

Mehefin 2024 – Effeithiau Newid Hinsawdd ar Iechyd yng Nghymru: Archwilio’r sylfaen dystiolaeth a nodi blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol

Daeth y gweminar hon â thystiolaeth gyfredol ynghyd ar effeithiau newid hinsawdd ar iechyd ledled Cymru gan gynnwys adroddiadau diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Mae newid hinsawdd yn mynd i gael effaith sylweddol ar iechyd a llesiant yng Nghymru – cafwyd cyfnodau o dywydd eithafol yn fwy aml yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf ac maent wedi effeithio ar seilwaith, gwasanaethau a llesiant corfforol a meddyliol y boblogaeth.  Mae angen tystiolaeth gadarn arnom i helpu’r sector iechyd i addasu i’r newidiadau hyn.

Mai 2024 – Dod yn rhanbarth Marmot: rhannu dysgu

Bu’r weminar hon yn archwilio’r dull a ddefnyddiwyd gan Dîm Iechyd Cyhoeddus Aneurin Bevan Gwent a Chyngor Coventry i ddod yn rhanbarthau Marmot ac amlygodd ddysgu ac argymhellion.

Mawrth 2024 – Blociau adeiladu ar gyfer tegwch rhywedd: Strategaethau ar gyfer dyfodol ffyniannus i fenywod yng Nghymru

Archwiliodd y gweminar hwn y cysylltiadau rhwng rhywedd a phenderfynyddion ehangach iechyd, a thrafododd rôl polisïau rhywedd-gynhwysol wrth ffurfio economïau a systemau iechyd teg. Roedd yn gyfle i edrych ar yr anghydraddoldebau rhywedd cyffredin sy’n effeithio ar iechyd y tu hwnt i wasanaethau iechyd.

Chwefror 2024 – Dull mapio systemau cyfranogol ar gyfer archwilio cyflawniad addysgol yng Nghymru – myfyrdod ar theori ac ymarfer

Rhoddodd y weminar hon drosolwg o benderfynyddion ehangach gwaith yr Uned Iechyd mewn perthynas ag addysg fel penderfynydd iechyd ac yn canolbwyntio ar ddefnyddio dull mapio systemau cyfranogol i ddeall y llwybrau cymhleth sy’n dylanwadu ar ganlyniadau cyflawniad addysgol yng Nghymru. Disgrifiodd y weminar y dull gweithredu, rhoddodd drosolwg o’r map a sut rydym wedi ei ddefnyddio a thrafod y dysgu o ddefnyddio’r dull hwn fel offeryn ar gyfer gweithio gydag eraill i ddeall a rheoli materion iechyd cyhoeddus cymhleth.

Chwefror 2024 – Gofal Sylfaenol Gwyrddach: sut gall gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned barhau â’r daith tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol a sero net?

Fel gweithiwr proffesiynol ym maes gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned, ydych chi’n poeni am effaith eich gwaith ar y newid yn yr hinsawdd neu, yn yr un modd, effaith y newid yn yr hinsawdd ar eich gwaith? Os ydych, ymunwch â digwyddiad ail-lansio Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru i ddysgu am y newidiadau ymarferol, syml y gallwch eu gwneud i’ch ymarfer o ddydd i ddydd, a fydd yn gwella’ch cynaliadwyedd amgylcheddol.

Ionawr 2024 – Dosbarth Meistr Gwerth Cymdeithasol: Mesur gwerth iechyd cyhoeddus

Bwriad y Dosbarth Meistr hwn yw gwella dealltwriaeth o werth cyfannol ehangach iechyd cyhoeddus trwy archwilio cysyniad Gwerth Cymdeithasol.

Ionawr 2024 – Deall a mynd i’r afael â’r effaith a gaiff defnyddio e-sigaréts gan blant a phobl ifanc yng Nghymru i iechyd cyhoeddus

Darparodd y gweminar hwn ddiweddariad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar epidemioleg a niwed fepio ymhlith plant ac oedolion, a’r mesurau sydd ar waith ar hyn o bryd i fynd i’r afael â’r broblem, yn enwedig gyda phobl ifanc.

2023

Rhagfyr 2023 – Ein cynnig Iechyd Byd-eang: Adnewyddu strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru

Cyflwynodd y weminar Strategaeth Iechyd Rhyngwladol adnewyddedig Iechyd Cyhoeddus Cymru, a beth yw’r strategaeth, a pham maen nhw’n bwysig.

Tachwedd 2023 – Diogelu iechyd a lles yn yr argyfwng hinsawdd

Bydd y gynhadledd hon yn cefnogi pobl sy’n gweithio gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) neu Gyrff Cyhoeddus sy’n cynllunio neu’n dechrau eu hasesiadau risg hinsawdd lleol.  Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyflwyniad i’r canllawiau ar asesiadau risg hinsawdd lleol sy’n cael eu cynhyrchu gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer BGCau. Clywodd y mynychwyr fewnwelediadau allweddol o’r Asesiad diweddar o’r Effaith ar Iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar berygl newid yn yr hinsawdd i bobl a chymunedau yng Nghymru. Roedd cyfle i rannu’r hyn a ddysgwyd a mewnwelediadau o waith addasu hinsawdd lleol presennol yng Nghymru.

Tachwedd 2023 – Cymru Can

Cymru Can yw strategaeth saith mlynedd newydd gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker.

Hydref 2o23 – Plant a’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Roedd y gweminar hwn yn archwilio polisi, ymchwil ac ymarfer presennol yng Nghymru sy’n ceisio cefnogi plant a’u teuluoedd trwy’r argyfwng costau byw.

Hydref 2023 – Mynd i’r afael ag effeithiau iechyd cyhoeddus y newid yn yr hinsawdd – dysgwch sut gallwch chi a’ch tîm weithredu

Amlygodd y weminar hefyd gyfleoedd hyfforddi am ddim sydd ar gael ar newid yn yr hinsawdd i’ch helpu i ddeall beth mae newid yn yr hinsawdd yn ei olygu i’ch rôl, a sut i weithredu.

Medi 2023 – Mynd i wraidd y broblem – Ymagwedd System Gyfan at Bwysau Iach yng Nghymru

Disgrifiodd y gweminar y dystiolaeth, y cyd-destun strategol a’r dull naw cam ar gyfer ymagweddau system gyfan yng Nghymru. Trafododd y gweminar pam fod gweithio fel hyn yn wahanol i waith partneriaeth mwy traddodiadol.

Awst 2023 – Rôl dylunio mewn iechyd cyhoeddus

Mae’r gweminar hwn yn gyflwyniad i’r Cyngor Dylunio sydd â mwy nag 20 mlynedd o brofiad o ddatblygu fframweithiau sy’n helpu sefydliadau i ymgorffori ymarfer dylunio a ffyrdd newydd o weithio.

Awst 2023 – Dyma pam mae chwarae mor bwysig

Mae ‘Dyma pam mae chwarae mor bwysig’ yn disgrifio pam mae chwarae yn hanfodol i ddatblygiad, iechyd meddwl, lles a hapusrwydd plant. O chwarae ar y stryd i iard yr ysgol, o’r ystafell fyw i’r iard gefn, mae’r ffilm yn cofnodi chwarae yn ei amrywiol ffurfiau ac yn cynnig cipolwg unigryw ar yr hyn y mae chwarae yn ei olygu i blant o bob oed.

Gorffennaf 2023 – Asesiad o’r Effaith ar Iechyd: Cytundeb partneriaeth gynhwysfawr a blaengar y Môr Tawel

Bydd y weminar hon yn trafod canfyddiadau’r asesiad o effaith CPTPP ar iechyd ar gyfer Cymru gyda phwyslais ar effeithiau ar iechyd, lles a thegwch.

Gorffennaf 2023 – Canfod ac atal masnach anghyfreithlon mewn cyffuriau, alcohol a thybaco yng Nghymru

Roedd y gweminar hwn yn crynhoi’r systemau rhyngwladol y bu’r DU a Chymru yn cymryd rhan ynddynt i fynd i’r afael ag alcohol, tybaco a chyffuriau anghyfreithlon cyn Brexit. Archwiliodd y panel sut mae’r rhain wedi newid ar ôl Brexit a’r effaith bosibl y gallai hynny ei chael ar iechyd a lles yng Nghymru.

Mehefin 2023 – Mynd i’r afael ag annhegwch iechyd yng Nghymru: Llwyfan Datrysiadau Tegwch Iechyd Cymru

Rhoddodd y gweminar drosolwg o weithgareddau arfaethedig ar gyfer y dyfodol a rhoddodd gyfle i chi ddarganfod sut y gallwch chi gymryd rhan mewn cyd-gynhyrchu datrysiadau, datblygu astudiaethau achos a chyfrannu at ddysgu am weithredu seiliedig ar ddatrysiadau i leihau annhegwch iechyd.

Mehefin 2023 – Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol – cynyddu cyfleoedd iechyd a lles i’r eithaf ar gyfer pobl a chymunedau sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yng Nghymru

Roedd y weminar hon yn archwilio gweithredu’r Ddyletswydd yn ymarferol ac yn rhoi arweiniad ychwanegol ar arweinyddiaeth systemau, defnyddio data’n effeithiol, ymgysylltu’n ystyrlon a gwybod sut mae sefydliadau wedi gwneud gwahaniaeth. Esboniodd y weminar sut mae anghydraddoldebau o ran canlyniad wedi’u cysylltu ag anfantais economaidd-gymdeithasol, gyda phwyslais cryf ar iechyd.

Mai 2023 – Dylanwadu ar y bwlch iechyd: Safbwyntiau o nifer o wledydd

Cyflwynodd y gweminar hwn brofiadau a mewnwelediadau ar ddadansoddiadau dadelfennu’r fenter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd (HESRi), gyda thrafodaeth ymhlith nifer o wledydd ar ddulliau a chanfyddiadau (Cymru, yr Eidal a Slofenia). Mae’n sesiwn sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau, gan edrych ar y ffordd y mae defnyddio methodoleg arloesol dadansoddi dadelfennu wedi arwain at ddealltwriaeth o’r hyn sy’n ysgogi anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhanbarthau eraill.

Mai 2023 – Gwella gweithio mewn partneriaeth mewn byrddau gwasanaethau cyhoeddus

Mae cydweithredu â phartneriaid amrywiol yn hanfodol i arweinwyr ac ymarferwyr Iechyd Cyhoeddus er mwyn mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd. O fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yn sefydliadau allweddol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth yng Nghymru. Ond mae astudiaethau’n dangos yn gyson fod partneriaethau strategol yn methu dod i gytundeb ar weithredu ar y cyd sy’n fuddiol i bob un ohonynt.

Ebrill 2023 – Iechyd y gweithlu yng Nghymru

Pandemigau, dirwasgiadau, lefelau cynyddol o salwch ac anweithgarwch economaidd cynyddol – dim ond rhai o’r heriau sy’n wynebu cyflogwyr a’r gweithlu yng Nghymru. Er bod y rhain yn denu penawdau mawr, beth yw ystyr hyn oll i iechyd y gweithlu yng Nghymru? Beth mae’r ymchwil ddiweddaraf yn ei dweud wrthym? Sut gallwn ni gynorthwyo gweithwyr i gael gwaith teg a chreu gweithleoedd iachus, sy’n ffynnu?

Ebrill 2023 – Pwysau Iach: Cymru Iach

Strategaeth hir dymor Llywodraeth Cymru yw Pwysau Iach: Cymru Iach i atal a lleihau gordewdra. Nod y cynllun yw cyflawni gosodiadau ac amgylcheddau iachus i ganiatáu i bobl o bob oedran wneud penderfyniadau iachus.

Mawrth 2023 – Lleoedd bwyd cynaliadwy (Is-deitlau Cymraeg)

Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yw un o’r mudiadau cymdeithasol sy’n tyfu gyflymaf heddiw ac rydym yn falch iawn bod Bwyd Caerdydd yn un o’i aelodau sefydlu. Mae ei rwydwaith yn dwyn ynghyd bartneriaethau bwyd arloesol o drefi, dinasoedd, bwrdeistrefi, rhanbarthau a siroedd ar hyd a lled y DU sy’n symbylu arloesedd ac arfer gorau ar bob agwedd ar fwyd iach a chynaliadwy. Synnwyr Bwyd Cymru yw partner cenedlaethol Llefydd Bwyd Cynaliadwy yng Nghymru ac mae gennym uchelgais i weld partneriaeth fwyd ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, gan greu rhwydwaith a fyddai’n sylfaen ar gyfer datblygu’r weledigaeth, yr isadeiledd a’r gweithredu sydd eu hangen i wneud system fwyd Cymru yn addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mawrth 2023 – Pam mae cydraddoldeb yn well i bawb?

Yn y gweminar hwn rhoddodd yr Athro Richard Wilkinson, cyd-awdur The Spirit LevelThe Inner Level, ei safbwynt ar y rhesymau pam mae anghydraddoldebau materol yn gwneud pobl yn fwy anghymdeithasol, yn gwneud rhaniadau statws a dosbarth yn fwy pwerus, yn cynyddu straen, yn niweidio iechyd corfforol ac iechyd meddwl, ac yn rhwystr rhag cynaliadwyedd.

Chwefror 2023 – Cynllunio ar gyfer dyfodol iach: cydweithio i greu cymunedau iachach

Rhoddodd y siaradwyr yn y digwyddiad eu safbwyntiau ar sut i gynllunio cydweithio rhwng meysydd cynllunio ac iechyd gyfrannu at fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd; asesiadau o’r effaith ar iechyd; cyfraniadau at gynllunio darpariaeth gofal iechyd; a rhoddodd enghreifftiau o sut y gall iechyd y cyhoedd ymgysylltu â’r system gynllunio.

Chwefror 2023 – Gwydnwch cymunedol yng Nghymru

Yn y gweminar hwn clywsom gan Nick Selwyn ac Euros Lake o Archwilio Cymru.

Rhannodd Lucia Homolova a Charlotte Grey o Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ganfyddiadau astudiaeth yn archwilio gweithredu dan arweiniad y gymuned yn ystod y pandemig yng Nghymru.

Clywsom hefyd gan Fred Weston a Catrin Cribb o Gyngor Sir Fynwy, a rannodd sut roedd y tîm yn galluogi gweithredu cymunedol yn ystod y pandemig i ymateb i anghenion siopa ac anghenion am bresgripsiynau.

Ionawr 2023 – Communities4Change (C4C) Cymru

Roedd y gweminar hwn yn rhoi trosolwg o ddull gweithredu C4C Cymru, y ffordd y mae gwaith CTMHHP wedi esblygu ers cymryd rhan yng nghynllun peilot C4C Cymru a phwyntiau dysgu allweddol o’r gwerthusiad.

Ionawr 2023 – Cymryd camau mewn perthynas â’r argyfwng costau byw yng Nghymru

Nid gwasgfa economaidd dros dro yn unig yw’r argyfwng costau byw presennol, yn hytrach mae’n fater iechyd y cyhoedd hirdymor sy’n effeithio ar y boblogaeth gyfan. Gallai’r effaith ar iechyd a llesiant yng Nghymru gael ei roi ar yr un raddfa â’r pandemig COVID-19, a oedd eisoes wedi gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol yng Nghymru. Mae’r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effeithiau eang a hirdymor ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

2022

Tachwedd 2022 – Dosbarth meistr – Masnach ac iechyd rhyngwladol

Roedd y dosbarth meistr yn cynnwys cyflwyniadau a thrafodaeth holi ac ateb ryngweithiol yn edrych ar effeithiau Cytundeb Cynhwysfawr a Chynyddol ar gyfer Partneriaeth Traws-Pasiffig (CPTPP) ar Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru, a phwy a sut y gallai pobl gael eu heffeithio.

Tachwedd 2022 – Deall y dylanwadau ar les meddwl ar lefel unigol a chymunedol

Tachwedd 2022 – Meddwl trwy systemau ac iechyd y cyhoedd: cyflwyniad

Hydref 2022 – Gwneud y gorau o gyfleoedd ar gyfer llesiant meddyliol ar draws polisïau a gwasanaethau gan ddefnyddio Asesiad o’r Effaith ar Lesiant Meddyliol

Medi 2022 – Diogeledd bwyd yng Nghymru

Rhoddodd y weminar hon gefndir i gyd-destun deddfwriaethol a pholisi presennol Cymru a’r DU mewn perthynas â diogeledd bwyd a’r effaith y mae diogeledd bwyd yn ei gael ar iechyd a lles y boblogaeth. Rhannodd y weminar hon hefyd y ffordd y mae partneriaethau bwyd lleol yn symud arweinwyr bwyd cymunedol ac yn eirioli dros fynediad gwell at fwyd fforddiadwy, iach a chynaliadwy.

Medi 2022 – Diogelu lles meddwl cenedlaethau’r dyfodol

Mae lles meddwl plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i lawer o sefydliadau yng Nghymru. Bydd y weminar hon o gymorth i chi ganfod yr hyn yr ydym yn ei wybod hyd yn hyn am effaith COVID-19 a’r rhaglen “Ymagwedd Ysgol Gyfan” y mae ysgolion yng Nghymru’n ei rhoi ar waith i hyrwyddo lles meddwl ac emosiynol.

Gorffennaf 2022 – Pandemig COVID-19 yng Nghymru: Bod yn agored i niwed dro ar ôl tro

Roedd y weminar hon yn olrhain dealltwriaeth benodol o’r cysyniad wedi llywio’r ymateb i’r pandemig gan ofal iechyd, llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, a sefydliadau cymunedol yng Nghymru gyda ffocws ar ardal Abertawe. Diben dyfyniadau o bolisïau’r pandemig a chyn y pandemig yn ogystal ag o gyfweliadau yw dangos sut mae bod yn agored i niwed wedi cael ei ddeall a’r camau gwahanol a gymerwyd i ymdrin ag ef. Mae’r mewnwelediadau hyn yn awgrymu sut mae’r pandemig wedi cael effeithiau mor annheg ar boblogaeth Cymru.

Gorffennaf 2022 – Gwaith teg ar gyfer iechyd, lles a thegwch – beth ddylem ni ei wneud? Argymhellion gan banel arbenigol

Mae natur gwaith yn effeithio arnom ni i gyd, a gall naill ai fod yn rhan o’r ateb i Gymru iachach, fwy cyfartal, neu gall gyfrannu at straen seicolegol, salwch a marwolaeth gynnar. Yn y weminar hon byddwch yn clywed arbenigwyr o banel yn trafod yr hyn y gall asiantaethau lleol a rhanbarthol ei wneud i ddylanwadu ar waith teg i gynorthwyo iechyd, tegwch, busnes da a’r economi ehangach.

Mehefin 2022 – Gofal Sylfaenol Gwyrddach: sut gall gofal sylfaenol a chymunedol ddechrau’r daith tuag at gynaliadwyedd amgylcheddol a datgarboneiddio?

Rhoddodd y weminar hon, wedi ei harwain gan yr Is-adran Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gefndir i’r cyd-destun deddfwriaethol a pholisi yng Nghymru mewn perthynas â datgarboneiddio a’r berthynas rhwng newid hinsawdd a gofal iechyd.

Mai 2022 – Agweddau ac ymddygiad y cyhoedd yn ystod pandemig COVID-19, ymagwedd gwyddor ymddygiad

Yn y weminar hon, bydd Ashley Gould o Uned Gwyddor Ymddygiad, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn datgelu dylanwadau blaenllaw pennaf penderfyniadau ac ymddygiad, a pham y gall dealltwriaeth well o’r rhain olygu ymyriadau mwy effeithiol, polisïau mwy trawiadol, gwasanaethau tecach a chyfathrebu â chyrhaeddiad ac ymateb gwell.

Ebrill 2022 – Hinsawdd ac iechyd yng Nghymru: Ymagweddau un iechyd i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur yng Nghymru

Mae cyfle i Gymru sefydlu ymagwedd Un Iechyd, gan integreiddio disgyblaethau lluosog ar draws y system a dod â phartneriaid ynghyd o’r sectorau dynol, anifeiliaid ac amgylcheddol i weithio ar faterion sydd yn croestorri’r meysydd hyn, yn cynnwys diogelwch bwyd a maeth, newid hinsawdd a bygythiadau yn sgîl clefydau heintus. Roedd y gweminar hwn yn rhoi trosolwg o ddull Un Iechyd.

Mawrth 2022 – Creu lleoedd a mannau iach

Bydd y gweminar o Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru helpu cyfranogwyr i ddeall y cyfraniad y gall cynllunio a chreu lleoedd ei wneud i fynd i’r afael â rhai o’r heriau iechyd mawr sy’n wynebu cymunedau.

Mawrth 2022 – Creu lleoedd a mannau iach: dull cydweithredol

Cynhaliwyd y digwyddiad yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad – “Mwyafu cyfleoedd iechyd a lles mewn cynllunio gofodol wrth ailsefydlu yn sgîl y pandemig COVID-19” a nododd sut mae cydweithio rhwng cynllunio gofodol ac iechyd yn hanfodol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd iechyd a lles wrth adfer ar ôl pandemig COVID-19. Cyflwynodd y digwyddiad ganfyddiadau’r adroddiad hwn.

2021

Tachwedd 2021 – Sut gallai cytundebau masnach newydd effeithio ar iechyd y cyhoedd yng Nghymru?

Archwiliodd y weminar hon beth yw cytundebau masnach a pham y mae iddynt ganlyniadau posibl pwysig i iechyd a llesiant yng Nghymru.

Tachwedd 2021 – Newidd hinsawdd, safbwynt Cymru

Hydref 2021 – Iechyd a llesiant tai

Medi 2021 – Pwysigrwydd presgripsiynau cymdeithasol

Medi 2021 – COVID-19: Effeithiau ehangach ar ein plant a’n pobl ifanc a’n teuluoedd

Awst 2021 – Incwm sylfaenol, iechyd a Chymru

Awst 2021 – Cyfres systemau: Pam defnyddio dull systemau? – Yn Saesneg yn unig

Gorffennaf 2021 – Gwaith da, iechyd da: Diogelu ein dyfodol

Nod y gynhadledd rithiol hon a gynhaliwyd ar 7 Gorffennaf 2021 oedd rhannu gwybodaeth ac ysgogi gweithredu i gynyddu mynediad at waith teg, da er mwyn gwella iechyd a thegwch iechyd, gyda ffocws ar bobl ifanc yng Nghymru.

Mehefin 2021 – Gadael neb ar ôl: Gosod tegwch iechyd wrth wraidd ymateb ac adferiad cynaliadwy COVID-19 yng Nghymru

Mai 2021 – Hyder, ymlyniad a heriau hunanynysu: mewnwelediadau ymddygiad gan gysylltiadau achosion COVID-19 yn dechrau ac yn cwblhau hunanynysu yng Nghymru

Mawrth 2021 – Llesiant cyflogeion yn y sector cyhoeddus: 12 mis i mewn i’r pandemig a thu hwnt

Yn y weminar hon, mae Dr Adrian Neal, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a Phennaeth Llesiant Cyflogeion Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, yn trafod ei brofiadau yng Nghymru a’r ffordd y gallwn gefnogi staff a’n gilydd yn ystod y pandemig.

Ionawr 2021 – Partneriaeth Cyflawni Adferiad Gwyrdd – Blaenoriaethau ar gyfer gweithredu

Yn y weminar, mae Dr Sarah Williams o Gyfoeth Naturiol Cymru yn amlinellu adroddiad ‘Adferiad Gwyrdd: Blaenoriaethau ar gyfer Gweithredu’, sydd yn amlygu camau gweithredu ymarferol ac wedi eu blaenoriaethu fydd yn llywio llwybr cynaliadwy Cymru allan o bandemig coronafeirws, yn cynnwys: atebion yn seiliedig ar natur; tai; a sgiliau, hyfforddiant a phrentisiaethau.

2020

Rhagfyr 2020 – Y Pandemig anghyfartal: COVID-19 ac anghydraddoldebau iechyd

Yn y weminar hon, mae Clare Bambra, Athro Iechyd y Cyhoedd, Cyfadran y Gwyddorau Meddygol, Prifysgol Newcastle, yn archwilio goblygiadau pandemig COVID-19 i anghydraddoldebau iechyd. Mae’r dystiolaeth hanesyddol a chyfoes o anghydraddoldebau yn ystod pandemig wedi ei amlinellu ac mae effeithiau iechyd anghyfartal tebygol yr argyfwng economaidd yn cael eu harchwilio, ac adlewyrchir ar yr ymatebion polisi iechyd y cyhoedd tymor hwy sydd eu hangen i sicrhau nad yw pandemig COVID-19 yn cynyddu anghydraddoldebau iechyd i genedlaethau’r dyfodol.

Tachwedd 2020 – COVID-19 a chymunedau BAME: Ymateb Llywodraeth Cymru

Yn y weminar hon, mae Dr Heather Payne, Uwch Swyddog Meddygol, Iechyd Mamau a Phlant, Llywodraeth Cymru, yn disgrifio gwaith Grŵp Cynghori Prif Weinidog Cymru ar anghydraddoldebau iechyd oherwydd COVID-19 mewn cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) ac ymateb Llywodraeth Cymru.

Hydref 2020 – COVID-19 a gwyddor ymddygiad

Yn y weminar hon, mae Jonathan West, Pennaeth Newid Ymddygiad a Gwybodaeth Gyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn trafod cymhwyso gwyddor ymddygiad i weithgaredd ataliol presennol yng Nghymru a, chan ddefnyddio enghraifft o bobl ifanc a chadw pellter cymdeithasol, mae’n disgrifio proses y gall datblygwyr ymyriadau, o bolisi i gyfathrebu, ei defnyddio i wella eu heffaith ar ymddygiad y cyhoedd sydd yn ddiogel o ran Covid.

Medi 2020 – Sganio’r gorwel yn rhyngwladol a dysgu

Yn y weminar hon, mae aelodau tîm Canolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd yn rhoi trosolwg o adroddiadau a gynhyrchwyd gan y ganolfan sydd yn canolbwyntio ar ddod â thystiolaeth ryngwladol o COVID-19 ynghyd i ddeall yn well ac archwilio atebion i fynd i’r afael ag effeithiau iechyd, llesiant, cymdeithasol ac economaidd parhaus yr achosion.

Gorffennaf 2020 – COVID-19 Asesu’r Effaith ar Iechyd ‘y Polisi aros gartref a chadw pellter cymdeithasol’ yng Nghymru

Yn y weminar hon, mae Liz Green, Cyfarwyddwr Rhaglen i Uned Gymorth Asesu Effaith ar Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Canolfan Gydweithredu WHO ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant a Laura Morgan, Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, yn trafod canfyddiadau ‘Asesiad o Effaith y Polisi Aros Gartref a Chadw Pellter Cymdeithasol mewn ymateb i bandemig COVID-19 ar Iechyd yng Nghymru’.

Gorffennaf 2020 – COVID-19 yn gryno

Yn y weminar hon, mae Dr Chris Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn rhoi trosolwg o COVID-19 ar gyfer cynulleidfa anfeddygol.