Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniad eich prawf gwaed: rydych yn gludydd thalasaemia beta

Dylech ddarllen y wybodaeth hon os yw canlyniad eich prawf gwaed sgrinio cyn geni ar gyfer clefyd y crymangelloedd a thalasaemia (SCT) yn dangos eich bod yn gludydd thalasaemia beta. Mae rhai pobl yn galw hyn yn ‘bod â nodwedd neu dueddiad’. Mae gwybodaeth yn y daflen yma am fod yn gludydd, a beth mae hyn yn ei olygu i chi ac i’ch teulu.


Cyhoeddi Ionawr 2022, Fersiwn 2.
 

Cynnwys

― Bod yn gludydd
Eich babi
― Y siawns o etifeddu cyflwr difrifol
― Cyflyrau haemoglobin a etifeddir 
― Thalasaemia difrifol
― Anhwylder y crymangelloedd
― Y camau a'r dewisiadau nesaf
― Sgrinio babanod
― Aelodau eraill o'r teulu
― Beichiogrwydd yn y dyfodol
― Sut y mae canlyniad eich prawf yn cael ei ysgrifennu
― Rhagor o wybodaeth

 

 


 

Bod yn gludydd

Nid yw bod yn gludydd yn eich gwneud yn sâl. Ni fyddwch yn datblygu cyflwr thalasaemia sydd angen triniaeth, ond mae'n bwysig gwybod y gallwch drosglwyddo'r genyn thalasaemia beta i'ch babi. Os yw tad biolegol eich babi yn gludydd hefyd, gyda'ch gilydd gallech gael babi â chyflwr etifeddol difrifol. Mae'r siawns yr un peth ym mhob beichiogrwydd.

Haemoglobin yw'r sylwedd mewn celloedd gwaed coch sy'n cludo ocsigen o amgylch eich corff. Mae bod yn gludydd yn golygu eich bod wedi etifeddu un genyn hemoglobin arferol o'r enw haemoglobin A gan un rhiant biolegol ac un genyn thalasaemia beta gan eich rhiant biolegol arall. Gan eich bod wedi etifeddu’r math arferol A o haemoglobin oddi wrth un o’ch rhieni, rydych yn iach.

Os oes gan dad biolegol eich babi enyn haemoglobin anarferol mae'n bwysig nodi'r math o enyn a'r siawns y bydd eich babi'n etifeddu cyflwr haemoglobin difrifol. Am y rheswm hwn, byddwn hefyd yn gwahodd y tad biolegol i gael ei sgrinio. Bydd dim ond yn gwybod a yw'n cario genyn ar gyfer haemoglobin anarferol os yw'n cael prawf gwaed i wirio ei fath o haemoglobin.

Os bydd y prawf yn dangos bod tad biolegol eich babi yn gludydd genyn haemoglobin anarferol byddwch yn cael cynnig cwnsela arbenigol ac, os oes angen,profion mewnwthiol.

Dywedwch wrth eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os:

  • gwnaethoch feichiogi o ganlyniad i driniaeth ffrwythlondeb â sberm rhoddwr neu wy rhoddwr;
  • rydych wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn neu fôn-gelloedd; neu
  • rydych yn feichiog fel mam faeth.

Fel cludydd thalasaemia beta mae eich celloedd gwaed coch yn llai nag arfer ac mae eich lefel haemoglobin yn is na'r arfer. Mae hyn yn wahanol i anemia diffyg haearn. Cyn cymryd atchwanegiadau haearn dylech bob amser ofyn i'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wirio eich lefelau haearn.

Eich babi

Mae yna nifer o wahanol gyflyrau haemoglobin y gallai eich babi eu hetifeddu. Mae rhai’n fwy difrifol nag eraill. Mae math a difrifoldeb y cyflwr yn dibynnu ar y mathau o enynnau haemoglobin sydd gennych chi a thad biolegol eich babi.

Y cyflyrau mwyaf difrifol yw thalasaemia difrifol ac anhwylder y crymangelloedd. Mae angen i bobl sydd â thalasaemia difrifol neu anhwylder y crymangelloedd gael gofal a thriniaeth arbenigol drwy gydol eu bywydau.

Y siawns o etifeddu cyflwr difrifol

Mae un rhiant biolegol yn gludydd ond nid yw'r rhiant arall yn gludydd

Os oes gan dad biolegol eich babi ddau enyn haemoglobin arferol (AA), mae siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd thalasaemia beta (fel chi) a siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd ganddo ddau enyn haemoglobin arferol (AA).

Gweler y diagram isod. Mae’r siawns yr un fath ym mhob beichiogrwydd ar gyfer y cwpl hwn.

Mae'r ddau riant biolegol yn gludwyr

Os yw tad biolegol eich babi yn gludydd hefyd, mae siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd eich babi yn etifeddu cyflwr haemoglobin. Bydd difrifoldeb y cyflwr yn dibynnu ar ba enynnau haemoglobin sy'n cael eu hetifeddu.

Mae hefyd siawns 2 mewn 4 (50%) y bydd eich babi yn gludydd (fel chi) a siawns 1 mewn 4 (25%) y bydd gan eich babi enynnau haemoglobin arferol (AA).

Gweler y diagram isod. Mae’r siawns yr un fath ym mhob beichiogrwydd ar gyfer y cwpl hwn.

Cyflyrau haemoglobin a etifeddir

Mae cyflyrau haemoglobin yn anhwylderau gwaed a etifeddir gan y ddau riant biolegol.

Mae nifer o gyflyrau haemoglobin, ond bydd y math o gyflwr y gallai eich babi ei etifeddu’n dibynnu ar y mathau o enynnau haemoglobin sydd gan y ddau riant biolegol. Mae rhai cyflyrau'n fwy difrifol nag eraill.

Gelwir y cyflyrau mwyaf difrifol yn thalasaemia difrifol ac anhwylder y crymangelloedd. Bydd angen gofal a thriniaeth arbenigol ar bobl sydd â’r cyflyrau yma drwy gydol eu bywydau.

Os yw tad biolegol eich babi hefyd yn gludydd thalasaemia beta, mae siawns 1 mewn 4 (25%) y gallai eich babi etifeddu thalasaemia difrifol beta. Mae hwn yn gyflwr sy'n gofyn am ofal a thriniaeth arbenigol.

Os yw tad biolegol eich babi yn gludydd crymangelloedd, mae siawns 1 mewn 4 (25%) y gallai eich babi etifeddu anhwylder y crymangelloedd. Mae hwn yn gyflwr sy'n gofyn am ofal a thriniaeth arbenigol.

Os yw tad biolegol y babi yn cario'r genyn ar gyfer haemoglobin anarferol arall, er enghraifft haemoglobin E, mae siawns 1 mewn 4 (25%) y gallai eich plentyn etifeddu cyflwr haemoglobin gwahanol. Y math o enynnau sy’n cael eu hetifeddu fydd yn pennu pa mor ddifrifol yw’r cyflwr. Gallwch drafod hyn gyda'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, fel eich bod yn deall yn union pa gyflwr y gallai eich babi ei etifeddu.

Thalasaemia difrifol

Mae pobl sydd â thalasaemia difrifol:

  • yn dioddef yn ddrwg o anaemia (mae eu gwaed yn cael trafferth cludo ocsigen);
  • fel arfer bydd angen trallwysiadau gwaed arnynt bob mis; ac
  • angen meddyginiaethau (therapi celadiad haearn) arnynt i atal y llwyth gormodol o haearn sy’n ganlyniad i’r trallwysiadau gwaed misol.

Anhwylder y crymangelloedd

Mae gan bobl ag anhwylder y crymangelloedd gelloedd coch y gwaed sy'n gallu mynd yn ddi-siâp pan fyddant yn rhyddhau ocsigen o amgylch y corff. Gall hyn rwystro pibellau gwaed bach.

Mae pobl sydd ag anhwylder y crymangelloedd:

  • yn gallu cael pyliau o boenau drwg iawn;
  • yn gallu cael heintiau difrifol sy’n peryglu eu bywydau;
  • yn anemig fel arfer; ac
  • angen meddyginiaethau a phigiadau pan maen nhw’n blant a thrwy gydol eu bywydau, er mwyn rhwystro heintiau.

Y camau a'r dewisiadau nesaf

Os bydd sgrinio yn dangos y gallai eich babi etifeddu cyflwr haemoglobin difrifol, byddwch yn cael cynnig cwnsela arbenigol a phrofion mewnwthiol

Sgrinio Babanod

Mae pob babi yn cael cynnig prawf sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig bum diwrnod ar ôl ei enedigaeth. Bydd y prawf hwn yn sgrinio ar gyfer anhwylder y crymangelloedd.

Gallwch hefyd wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol eich bod yn gludydd thalasaemia beta;
  • cysylltu â chanolfan arbenigol crymangelloedd a thalasaemia lle gallwch gael gwybodaeth a chyngor am ddim i’ch helpu i ddeall goblygiadau bod yn gludydd thalasaemia beta; a
  • threfnu i unrhyw blant eraill sydd gennych gael eu profi os oes angen, gyda chymorth gan eich meddyg teulu neu ganolfan crymangelloedd a thalasaemia.

Aelodau eraill o'r teulu

Gan eich bod yn gludydd thalasaemia beta, gallai aelodau eraill o’ch teulu biolegol fod yn gludwyr hefyd.

Rydym yn argymell eich bod yn siarad â'ch rhieni, brodyr, chwiorydd, ewythrod, modrybedd, cefndryd a chyfnitherod. Dylech eu hannog nhw i gael prawf cyn dechrau teulu a chyn cael rhagor o blant. Gall dangos y wybodaeth hon iddynt fod o gymorth.

Mae cael y prawf yr un mor bwysig i ddynion ag y mae i fenywod. Gall unrhyw un ofyn am brawf ar unrhyw adeg gan eu meddyg teulu neu ganolfan arbenigol crymangelloedd a thalasaemia.

Beichiogrwydd yn y dyfodol

Rydym yn argymell eich bod yn dweud wrth eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol am eich statws cludydd mor gynnar â phosibl mewn unrhyw feichiogrwydd yn y dyfodol.

Mae'n bwysig profi'r tad biolegol a chael eich atgyfeirio i gwnselydd arbenigol.

Sut y mae canlyniad eich prawf yn cael ei ysgrifennu

Fel cludydd thalasaemia beta mae eich canlyniad prawf sgrinio yn cael ei ysgrifennu fel Aβ thalasaemia.

Mae'r llythyren A yn cynrychioli eich genyn haemoglobin A arferol. Mae’r llythyren Roeg “β” yn golygu beta.

Rhagor o wybodaeth

Gallwch gael rhagor o wybodaeth gan y cyrff yma:

https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/t/article/thalassaemia/

https://cavuhb.nhs.wales/our-services/laboratory-medicine/haematology/sickle-cell-and-thalassaemia/sickle-cell/

https://ukts.org/