Neidio i'r prif gynnwy

Alffa Thalasaemia Posibl

Mae canlyniadau eich prawf gwaed yn dangos y gallech chi fod yn gludydd alffa-thalasaemia +/- diffyg haearn


Cyhoeddi mis Mai 2022.
 

Cynnwys

― Cyflwyniad
Negeseuon allweddol
― Ystyr canlyniad eich prawf gwaed
― Beth yw alffa-thalasaemia?
― Y pethau dylech chi fod yn eu gwybod os ydych chi’n cario alffa-thalasaemia
― Y cam nesaf os bydd adroddiad eich prawf sgrinio yn argymell y dylai tad y babi gael prawf
― Os daw’n amlwg bod risg uchel yn eich beichiogrwydd o anhwylder difrifol ar yr haemoglobin


Cyflwyniad

Mae’r daflen yma i fenywod sydd wedi cael prawf am gryman-gell a thalasaemia mewn beichiogrwydd, ac i fenyw sydd wedi cael gwybod y gall hi fod yn cario alffa-thalasaemia (sydd hefyd yn cael ei alw’n tueddiad posibl gludydd alffa-thalasaemia).

Gan na all eich prawf sgrinio gadarnhau a ydych yn gludydd alffa-thalasaemia, rydym wedi ysgrifennu'r wybodaeth yn y daflen hon fel pe baech yn gludydd alffa-thalasaemia ac i'ch helpu i ddeall a oes angen cymryd camau pellach yn ystod eich beichiogrwydd.

Negeseuon allweddol

  • Mae bod yn gludydd alffa-thalasaemia’n ddarganfyddiad cyffredin ac ni fyddai fel arfer yn achosi unrhyw faterion iechyd i chi na'ch babi.

Mae’n bosibl ei drosglwyddo i’ch plant a dyma pam y mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol y gallech chi fod yn gludydd.

  • Gofynnwyd cwestiynau penodol i chi am darddiad eich teulu cyn y prawf sgrinio hwn, ac ystyriwyd hyn wrth ddehongli canlyniad eich gwaed.
  • Bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn trafod canfyddiadau eich prawf gwaed gyda chi ac yn dweud wrthych a argymhellir unrhyw gamau gweithredu pellach.

Ystyr canlyniad eich prawf gwaed

Mae canlyniad eich prawf wedi’i gyfleu fel: cludydd posibl alffa-thalasaemia

+/- diffyg haearn.

Mae eich prawf gwaed diweddar wedi dangos:

  • bod y celloedd coch yn eich gwaed yn llai na’r disgwyl.

Diffyg haearn yn y gwaed sydd fel arfer yn gwneud y celloedd coch yn llai, sef yr achos pennaf o anaemia. Mae’r prawf gwaed y gall eich bydwraig ei gynnig yn ystod eich beichiogrwydd yn gwirio lefel y fferitin yn eich gwaed, ac mae hyn yn helpu i benderfynu a oes diffyg haearn yn eich gwaed.

Yn achos rhywun iach sydd â digon o haearn yn ei waed, yr esboniad mwyaf tebygol i ganlyniad y prawf gwaed yw bod yr unigolyn yn cario alffa-thalasaemia.

Beth yw alffa-thalasaemia?

Mae alffa-thalasaemia’n un o’r nifer o amrywolion a allai fod yn eich gwaed. Maen nhw’n cael eu galw’n amrywiolion yng ngenynnau’r haemoglobin, ac maen nhw’n gallu cael eu trosglwyddo o’r rhiant i’r plentyn. Mae’r mwyafrif o bobl yn etifeddu dau enyn alffa-globin o’u mam, a dau enyn alffa-globin o’u tad biolegol.

Mae’ch genynnau hefyd yn rheoli’r math o haemoglobin rydych chi’n ei etifeddu.

Yn achos cludydd alffa-thalasaemia, mae newidiadau yn un o’r genynnau yma neu yn sawl un o’r genynnau.

Mae gwahanol fathau o alffa-thalasaemia i’w gweld ym mhob math o grŵp ethnig. Mae’r cyfraddau’n amrywio o wlad i wlad, ond mae gan rai poblogaethau gyfraddau uwch o alffa-thalasaemia.

Y pethau dylech chi fod yn eu gwybod os ydych chi’n cario alffa-thalasaemia

Rydyn ni’n ansicr ydych chi’n cario alffa-thalasaemia. Er enghraifft, os oeddech chi eisoes yn cymryd haearn pan gawsoch chi’r prawf, ni fyddai’r prawf fferitin yn dangos lefel isel o haearn ac efallai mai cynyddu lefel yr haearn y mae’r celloedd coch yn eich gwaed.

Rydyn ni wedi ysgrifennu’r wybodaeth sy’n dilyn fel petaech chi’n cario alffa-thalasaemia.

  • Nid yw bod yn gludydd alffa-thalasaemia yn eich gwneud yn sâl. Ni fyddwch yn datblygu cyflwr thalasaemia sydd angen triniaeth.
  • Mae’n bosibl i gludydd drosglwyddo alffa-thalasaemia i’w blant. Dyma pam mae’n bwysig eich bod yn gwybod bod posibilrwydd eich bod yn gludydd.
  • Os byddwch chi’n cael prawf gwaed, dywedwch wrth eich meddyg y gallech chi fod yn cario alffa-thalasaemia rhag i chi gael diagnosis anghywir o ddiffyg haearn. Os bydd eich meddyg eisoes yn gwybod y gallech chi fod yn cario alffa-thalasaemia, gall osgoi cynnig profion diangen i chi ac osgoi rhoi presgripsiwn i chi am haearn.    
  • Dim ond os yw prawf gwaed wedi dangos bod diffyg haearn yn eich gwaed y dylech chi fod yn cymryd moddion haearn.
  • Rydych chi’n rhydd i roi gwaed (pan nad ydych chi’n feichiog), ar yr amod nad oes anaemia (lefel is na’r arfer o haemoglobin) arnoch chi. Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen Rhoi Gwaed // Gwasanaeth Gwaed Cymru (welsh-blood.org.uk)
  • Os ydych chi’n cario alffa-thalasaemia, mae siawns y gallai fod gan eich plant anhwylder difrifol ar yr haemoglobin, os yw eu tad biolegol hefyd yn cario alffa-thalasaemia neu’n gludydd amrywiolion haemoglobin eraill.

Mewn beichiogrwydd, yn achos y mwyafrif o fenywod a allai fod yn cario alffa-thalasaemia, mae’n annhebygol iawn y bydd y menywod yn cael plant sydd ag anhwylder difrifol ar eu haemoglobin.

Dim ond os yw eich adroddiad prawf sgrinio yn argymell bod tad biolegol y babi yn cael ei brofi y mae angen cymryd camau pellach.

Byddai hyn yn cael ei argymell os yw'r canlynol yn wir:

  • rydych chi a thad biolegol y babi wedi'ch nodi fel rhai sy'n tarddu o wledydd lle mae thalasaemia alffa sero yn fwyaf cyffredin, fel De-ddwyrain Asia (Tsieina, gan gynnwys Hong Kong, Gwlad Thai, Taiwan, Cambodia, Laos, Fiet-nam, Indonesia, Myanmar, Malaysia, Singapore neu Ynysoedd Philippines) neu wledydd Dwyrain Môr y Canoldir (Cyprus, Gwlad Groeg, Sardinia, Twrci neu anhysbys);

Y cam nesaf os bydd adroddiad eich prawf sgrinio yn argymell y dylai tad y babi gael prawf

Rydyn ni’n awyddus i dad biolegol eich babi gael prawf, ac i wneud y prawf cyn pen tri diwrnod gwaith neu cyn gynted â phosibl. Pwrpas y prawf yw dod i wybod a yw’r tad yn cario alffa-thalasaemia neu’n cario math arall o amrywiolyn anarferol yn yr haemoglobin.

Os nad yw tad eich babi’n gludydd alffa-thalasaemia ac os nad yw’n cludo unrhyw fath arall o amrywiolyn anarferol yn ei haemoglobin, ni ddylai alffa-thalasaemia nac unrhyw anhwylder arall ar yr haemoglobin fod ar y babi yn eich croth nac ar unrhyw fabanod rydych chi’ch dau eisoes wedi’u cael neu rai byddwch yn eu cael yn y dyfodol. Yn yr achos yma, nid oes angen cymryd unrhyw gamau pellach.

Os yw tad biolegol eich babi’n cario alffa-thalasaemia neu os yw’n cario unrhyw fath arall o amrywiolyn anarferol yn ei haemoglobin, mae posibilrwydd y gallai hwn gael ei drosglwyddo i’r babi oddi wrth y ddau riant. Fe allai goblygiadau hynny fod yn ddifrifol i’r fam ac i’r babi fel ei gilydd.

Os daw’n amlwg bod risg uchel yn eich beichiogrwydd o anhwylder difrifol ar yr haemoglobin

Os ydych chi a thad biolegol eich babi fel eich gilydd yn cario alffa-thalasaemia, ac os yw’r math o alffa-thalasaemia’n golygu bod risg uchel yn eich beichiogrwydd o alffa-thalasaemia difrifol, byddwch chi’n cael eich gwahodd cyn gynted â phosibl yn y beichiogrwydd i drafod y sefyllfa gyda bydwraig arbenigol.

Efallai bydd y fydwraig yn eich cyfeirio wedyn naill ai at gynghorydd ar eneteg neu at weithiwr iechyd proffesiynol arall sydd â gwybodaeth arbenigol. Bydd y person hwnnw’n gallu dweud wrthych chi sut y gallai hyn effeithio ar y babi yn eich croth.

Mae rhai anhwylderau alffa-thalasaemia’n llawer mwy difrifol na rhai eraill, a bydd y cynghorydd ar eneteg neu’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn trafod hyn gyda chi.

Bydd rhai rhieni’n dewis cael prawf ymwthiol (samplu filysau corionig [neu CVS] rhwng wythnos 11 ac wythnos 14 o’r beichiogrwydd, neu amniocentesis ar ôl wythnos 15). Pwrpas y prawf diagnostig yw canfod a fydd anhwylder difrifol ar yr haemoglobin ar y babi. Dim ond os yw profion wedi adnabod yr union newid yn y genyn yn y ddau riant y byddwch chi’n cael cynnig o brawf diagnostig.

Byddwch yn cael cyfle i drafod y prawf ymwthiol gyda’r fydwraig arbenigol neu’r cynghorydd ar eneteg.

  • Mae rhai rhieni’n dewis peidio â chael prawf ymwthiol ac yn parhau â'r beichiogrwydd, gan wybod y gallai anhwylder difrifol ar yr haemoglobin fod arno.
  • Mae rhai rhieni’n dewis cael prawf ymwthiol ac yn penderfynu terfynu’r beichiogrwydd os daw’n amlwg bod anhwylder difrifol ar yr haemoglobin ar y babi.
  • Mae rhai rhieni’n dewis cael prawf ymwthiol ac yn penderfynu parhau â'r beichiogrwydd gan wybod bod anhwylder difrifol ar yr haemoglobin ar y babi.  Byddwch chi’n cael cynnig o brawf gwaed i’ch babi yn fuan ar ôl y geni, er mwyn dechrau ar y driniaeth, os oes angen triniaeth. Mae cael diagnosis cynnar yn gyfle i chi ac i’r tîm meddygol i baratoi gofal eich babi.

Gallwch chi gael mwy o wybodaeth am thalasaemia o’r mannau canlynol.