Neidio i'r prif gynnwy

Sgrinio Coluddyn Cymru Oed Gwahoddiad Newydd 2021

   Cyhoeddedig:11 Hydref 2021

Sgrinio Coluddion Cymru yn gwahodd pobl 58 a 59 oed i gael eu sgrinio am y tro cyntaf

O fis Hydref 2021, bydd rhaglen Sgrinio Coluddion Cymru yn dechrau gwahodd pobl 58 a 59 oed am y tro cyntaf i sgrinio canser y coluddyn. Bydd y rhaglen yn parhau i wahodd y rhai 60 i 74 oed sy'n cael eu gwahodd ar hyn o bryd.

Mae'r dystiolaeth yn dangos y byddai sgrinio pobl ar oedran iau yn galluogi i fwy o ganserau'r coluddyn gael eu nodi ar gam cynharach, lle mae'r driniaeth yn debygol o fod yn fwy effeithiol a gwella'r cyfleoedd goroesi.

Bydd dynion a menywod, rhwng 58 a 74 oed, yn cael eu gwahodd am sgrinio'r coluddyn gyda phecyn prawf am ddim gan y GIG yn cael ei anfon i'w cartrefi bob dwy flynedd.

Mae Sgrinio Coluddion Cymru bellach yn defnyddio'r pecyn Prawf Imiwnocemegol mewn Carthion (FIT) sy'n haws i bobl ei ddefnyddio a dim ond un sampl o garthion sydd ei angen. Mae gwahoddiadau a phecynnau prawf yn cael eu hanfon drwy'r post i'w cartref a gofynnir i gyfranogwyr gwblhau'r pecyn prawf a'i ddychwelyd i Sgrinio Coluddion Cymru yn yr amlen ragdaledig gan ddefnyddio system bost y Post Brenhinol.

Meddai Dr Sharon Hillier, Cyfarwyddwr Sgrinio yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ein rhaglenni sgrinio yng Nghymru yn parhau i adfer yn dilyn effaith y pandemig ac rydym yn falch ein bod bellach yn gallu dechrau cynnig sgrinio coluddion i bobl iau.

“Mae sgrinio coluddion yn lleihau'r risg o bobl yng Nghymru yn marw o ganser y coluddyn a bob blwyddyn mae'r rhaglen yn profi dros 150,000 o becynnau ac o'r rhai rydym yn gallu nodi cannoedd o gyfranogwyr y gellir cynnig ymchwiliad neu driniaeth bellach iddynt.”

“Byddwn yn annog y rhai sydd newydd ddod yn gymwys i ddarllen y pecyn gwybodaeth sy'n dod gyda'ch pecyn profi yn ofalus, i'ch helpu i wneud dewis gwybodus ynghylch cymryd rhan mewn sgrinio'r coluddyn.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: “Byddwn yn annog pawb sy'n gymwys – yn enwedig pawb sy'n cael eu gwahodd i gymryd rhan am y tro cyntaf – i gymryd rhan. Mae'n brawf syml i'w wneud ac mae digon o wybodaeth yn y pecyn prawf.

“Cymryd rhan mewn rhaglenni sgrinio yw un o'r pethau y gallwn ei wneud i ofalu am ein hiechyd.”

Ynglลทn â’r rhaglen

Nodiadau'r golygydd

Mae Sgrinio Coluddion Cymru yn un o wyth rhaglen sgrinio'r GIG am ddim a gynhelir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae'n gwahodd tua 280,000 o bobl i gael eu sgrinio bob blwyddyn, gyda thua 160,000 o becynnau prawf yn cael eu dychwelyd, ac mae'n canfod mwy na 200 o ganserau'r coluddyn bob blwyddyn.

Gall symptomau canser y coluddyn gynnwys

•Gwaedu o'ch pen ôl a/neu waed yn eich carthion.

•Newid cyson ac anesboniadwy o ran arferion eich coluddyn.

•Colli pwysau heb esboniad.

•Blinder eithafol heb reswm amlwg.

•Poen neu lwmp yn eich bol.

Dylai unrhyw un o unrhyw oedran sy'n profi'r symptomau hyn gysylltu â'u meddyg teulu, waeth pryd y cawsant eu prawf sgrinio'r coluddyn diwethaf.

Ceir rhagor o wybodaeth am Sgrinio Coluddion Cymru yn: https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/sgrinio/sgrinio-coluddion-cymru/

Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru.

  • Ni yw eich prif ffynhonnell o wybodaeth ddibynadwy am iechyd cyhoeddus, arbenigedd annibynnol ac ymchwil ac arloesedd o'r radd flaenaf, i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywydau iachach.
  • Gyda'n partneriaid ar draws llywodraeth, y trydydd sector a chymunedau lleol, mae ein timau'n gweithio i atal clefyd, diogelu iechyd a darparu arbenigedd.
  • Gyda'n gilydd ein nod yw lleihau anghydraddoldebau, cynyddu disgwyliad oes iach a gwella iechyd a llesiant i bawb yng Nghymru, nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gweithio gyda'n gilydd ar gyfer Cymru iachach.

Ceir rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru yn https://www.icc.gig.cymru/

CYSWLLT:   Ar gyfer ymholiadau'r wasg ffoniwch dîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 0300 003 0277 (24 awr)