Neidio i'r prif gynnwy

Sut byddwch chi'n sgrinio clyw fy baban?

Y prif brawf sydd ar gael i fabanod iach yw’r prawf allyriadau otoacwstig (AOAE test yn Saesneg), sy’n brawf awtomataidd. Ond nid yw’r prawf yma bob amser yn rhoi ymateb clir yn ystod y 24 awr gyntaf o oes y babi. Os yw’n debygol y bydd y fam yn mynd adre o’r ysbyty cyn pen 24 awr, bydd ei babi’n cael math gwahanol o brawf clyw, sef prawf ymateb clybodol coesyn yr ymennydd (AABR test). Pwrpas yr ail fath o brawf yw gofalu bod llai o fabanod yn gadael yr ysbyty er eu bod angen gofal dilynol. Os nad yw’n bosibl gwneud prawf ymateb coesyn yr ymennydd (os yw’r babi’n aflonydd, er enghraifft), yna bydd y babi’n cael cyfle i gael ail brawf allyriadau otoacwstig yn y gymuned, yng nghlinig yr ardal fel arfer.

Dim ond yr ail fath o brawf sgrinio (ymateb coesyn yr ymennydd) sydd ar gael i fabanod ‘risg mawr’. Babanod yw’r rhain sydd wedi treulio dros 48 awr mewn uned gofal arbennig i fabanod neu uned gofal dwys y newydd-anedig.

Prawf Awtomataidd Allyriadau Otoacwstig (AOAE)

Mae’r prawf yn golygu rhoi clustffon meddal yn rhan allanol clust y babi. Mae’r clustffon yn gwneud sŵn clicio ac mae’r offer yn dangos i’r sgriniwr sut mae clustiau’r babi’n ymateb i’r sain.

 

 

 

Prawf Awtomataidd Ymateb Clybodol Coesyn yr Ymennydd (AABR) 

Bydd y sgriniwr yn rhoi tri phad bach gludiog ar ben a gwddf y babi. Bydd yn rhoi clustffonau bach dros ei glustiau a bydd y clustffonau’n gwneud sŵn clicio. Mae’r offer yn dangos i’r sgriniwr sut mae clustiau’r babi’n ymateb i’r sain.

Mae’n well gwneud y ddau fath o brawf pan mae’r babi’n llonydd neu’n cysgu.