Neidio i'r prif gynnwy

Ble fydd y prawf yn cael ei wneud?

Rydym yn ceisio sgrinio cynifer o fabanod â phosibl yn yr ysbyty, ac rydym yn gobeithio cynnig y prawf cyn i chi fynd adref. Os na fydd y prawf yn cael ei wneud yn yr ysbyty, byddwch yn cael cyfle i gael un yn y gymuned, sef yn eich clinig lleol fel arfer. Byddai o help pe baech yn cymryd sêt, bygi neu bram eich babi gyda chi i’r apwyntiad. Mae gofyn bod eich babi wedi setlo neu’n cysgu cyn gwneud y prawf sgrinio, felly byddai o help pe baech chi newydd ei fwydo. Bydd y sgriniwr yn gofyn am ganiatâd ysgrifenedig cyn gwneud y prawf. Os mai apwyntiad cyntaf eich babi i gael prawf sgrinio yw hwn, dylai rhywun â chyfrifoldeb rhiant drosto ddod â’r babi. Bydd y rhestr wirio y byddwch yn ei chael gyda’ch llythyr apwyntiad yn rhestru’r bobl sydd â chyfrifoldeb rhiant.