Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw ystyr y canlyniadau?

Babanod iach

Os oes ymateb clir o un o glustiau’ch babi, neu o’r ddwy glust, mae’n debyg nad oes colled ar glyw’r babi a fydd yn effeithio ar ei allu i ddysgu siarad ac i ddatblygu iaith. Nid oes angen mwy o brofion sgrinio’r clyw. Bydd y sgriniwr yn rhoi gwybodaeth i chi am y ffyrdd mae babanod yn ymateb i sain wrth iddyn nhw dyfu. Bydd y sgriniwr yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn poeni o gwbl am glyw eich babi.

Os nad yw’r un o glustiau’ch babi’n rhoi ymateb clir, nid yw o anghenraid yn golygu bod colled ar ei glyw. Mae’n bosib methu cael ymatebion clir o dan yr amodau canlynol:

  • mae'r babi’n aflonydd;
  • mae hylif yn y glust ar ôl y geni;
  • mae gormod o sŵn yn yr ystafell lle’r oedd y prawf yn cael ei wneud.

Os nad oes ymateb clir o’r naill glust na’r llall, bydd eich babi’n cael cyfle i gael prawf arall. Efallai bydd y sgriniwr yn gwneud yr ail brawf, neu awdiolegydd (arbenigwr ar y clyw). Os mai’r awdiolegydd fydd yn gwneud y prawf, bydd y sgriniwr yn rhoi taflen i chi sy’n esbonio’r prawf. Mae mwy o wybodaeth hefyd yn yr adran ‘Yn y Clinig Clyw’ o’r wefan. Os mai o un glust yn unig y mae’r ymateb yn glir, efallai byddwch yn dewis cael prawf clyw arall. Mae esboniad yn dilyn o’r dewisiadau sydd ar gael.

Ymateb clir o un glust 

Mae tua un o bob pump (20%) o fabanod iach yn rhoi ymateb clir o un glust yn unig. Dim ond nifer fach iawn o fabanod sydd â cholled barhaol ar y clyw yn un o’u clustiau ar adeg eu geni, felly mae’n debyg bod eich babi’n clywed yn dda gyda’r ddwy glust. Efallai nad yw’r ymateb yn glir am fod y babi’n aflonydd, neu fod hylif yn y glust ar ôl y geni neu fod gormod o sŵn yn yr ystafell lle’r oedd y prawf yn cael ei wneud.

Byddwn yn ysgrifennu at eich meddyg teulu a’ch ymwelydd iechyd i gadarnhau bod eich babi wedi rhoi ymateb clir i’r prawf sgrinio clyw babanod newydd-anedig. Nid oes angen mwy o brofion. Mae’n dal yn bwysig eich bod yn gwirio clyw eich babi wrth iddo dyfu, drwy ddefnyddio’r rhestr wirio rydych wedi’i chael. Cyswllt i y Rhestr Wirio i Rieni.

Er hynny, mae'r dewisiadau canlynol ar gael i chi:

  • Gallech chi ddewis cael prawf clyw arall yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd y prawf yma'n cael ei wneud mewn clinig argennig mewn ysbyty.
  • Gallech chi ddewis aros a chael prawf clyw pan fydd eich babi’n naw mis oed. Bydd y prawf yma’n cael ei wneud mewn clinig lleol neu glinig mewn ysbyty.

Os mai’ch dewis yw cael ail brawf clyw, ffoniwch un o’r rhifau ffôn sy’n dilyn cyn pen wythnos i ddyddiad y prawf cyntaf i drefnu apwyntiad:

Gogledd Cymru

01978 727005

Canolbarth a Gorllewin Cymru

01656 754085

De-ddwyrain Cymru 

029 21 84 3568

 

Babanod a oedd angen gofal arbennig am gyfnod hirach na dau ddiwrnod

 

Os oes ymateb clir o ddwy glust eich babi, mae’n debyg nad oes colled ar ei glyw a fydd yn effeithio ar ei allu i ddysgu siarad ac i ddatblygu iaith. Nid oes angen mwy o brofion sgrinio’r clyw. Bydd y sgriniwr yn rhoi gwybodaeth i chi am y ffyrdd mae babanod yn ymateb i sain wrth iddyn nhw dyfu. Bydd y sgriniwr yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn poeni o gwbl am glyw eich babi.

Os nad oes ymateb clir o’r naill glust na’r llall, nid yw o anghenraid yn golygu bod colled ar glyw eich babi. Mae nifer o bethau’n gallu achosi diffyg ymateb clir:

  • mae'r babi'n aflonydd;
  • mae hylif yn y glust ar ôl y geni;
  • mae gormod o sŵn yn yr ystafell lle’r oedd y prawf yn cael ei wneud.

Os nad oes ymateb clir o un o glustiau’ch babi, neu o’r ddwy glust, bydd eich babi’n cael cyfle i gael ail brawf clyw y bydd awdiolegydd (arbenigwr ar y clyw) yn ei wneud. Bydd y rhaglen sgrinio’n trefnu’r apwyntiad i chi. Bydd y sgriniwr yn rhoi taflen i chi sy’n esbonio’r prawf.