Neidio i'r prif gynnwy

Beth fydd yn digwydd os bydd angen ail brawf clyw gydag awdiolegydd?

Bydd angen profion gydag awdiolegydd ar un neu ddau o bob cant o fabanod, ar ôl y prawf sgrinio. Mae gofyn gwneud y profion yma tra bo’r babi’n dal yn y cyfnod pan mae’n tueddu i gysgu llawer yn ystod y dydd. Byddwch yn cael apwyntiad ar gyfer y prawf yn ystod y pedair wythnos nesaf. Os cafodd eich babi ei eni’n gynnar byddwch yn cael apwyntiad i gael y prawf yn ystod yr wyth wythnos nesaf. Bydd gwneud hyn yn caniatáu i lwybr clywed eich babi ddatblygu. Am fwy o wybodaeth am yr apwyntiad i gael asesu’r clyw cliciwch yma, neu gallwch ddarllen ein taflen Ymweliad eich Babi â’r Clinig Clyw.