Neidio i'r prif gynnwy

Sut bydd y profion clyw'n cael eu gwneud?

Mae nifer o wahanol brofion a allai gael eu gwneud. Bydd yr awdiolegydd yn esbonio pob un. Bydd y mwyafrif o fabanod yn cael y ddau brawf cyntaf y mae disgrifiad ohonyn nhw’n dilyn.

Yn y prawf cyntaf, bydd yr awdiolegydd yn rhoi padiau gludiog bach ar dalcen a gwddf eich babi. Bydd yn rhoi clustffonau bach yn ei glustiau, ac mae’r rhain yn gwneud gwahanol fathau o sŵn clicio. Bydd yn profi un glust yn gyntaf, ac yna’r ail. Mae’r ymateb o glustiau’r babi i’w gweld fel patrwm o donnau ar sgrin cyfrifiadur.

 

 

Bydd yr awdiolegydd yn rhoi clustffon bach meddal yng nghlust eich babi. Mae’r clustffon yma’n newid y pwysedd yn nhiwb y glust ac yn chwarae sain. Pwrpas y prawf yma yw asesu a oes unrhyw hylif y tu ôl i bilen y glust, yng nghlust ganol y babi. Bydd yr awdiolegydd yn gwneud y prawf ar y ddwy glust.

 

 

Efallai bydd yr awdiolegydd yn rhoi teclyn y tu ôl i glust eich babi. Mae’r teclyn yma’n gwneud yr un seiniau clicio â’r prawf cyntaf. Bydd yr awdiolegydd yn chwilio am yr un patrwm o donnau ar sgrin cyfrifiadur. Mae’r tonnau’n dangos sut mae clust fewnol eich babi’n ymateb i’r sain.

 

 

Efallai bydd yr awdiolegydd yn rhoi clustffon bach meddal yng nghlust eich babi. Mae’r clustffon yn gwneud sŵn clicio. Bydd yr awdiolegydd yn gweld ar sgrin cyfrifiadur sut mae clustiau mewnol eich babi’n ymateb i’r sain.