Neidio i'r prif gynnwy

Pam bod fy mabi wedi cael ei gyfeirio i gael asesu ei glyw?

Mae’ch babi wedi cael ei gyfeirio at yr adran awdioleg yn eich ardal er mwyn i awdiolegydd (arbenigwr ar y clyw) asesu ei glyw. Cafodd eich babi ei gyfeirio am fod diffyg ymateb clir o un o’i glustiau, neu o’r ddwy glust, wrth gael y prawf sgrinio clyw babanod newydd-anedig. Byddwch chi wedi cael y daflen “Ymweliad eich Babi â’r Clinig Clyw” gan y sgriniwr. Mae gwybodaeth yn y daflen am yr asesiad.

Mae gwybodaeth yn yr adran yma am yr apwyntiad ac am y math o brofion clyw a allai gael eu gwneud.