Neidio i'r prif gynnwy

Pa mor debygol yw hi fod colled ar glyw fy mabi?

Mae colled ar y clyw yn y ddwy glust ar un neu ddau o bob 1000 o fabanod, ar adeg eu geni. Mae’r mwyafrif o’r babanod yma’n perthyn i deuluoedd lle nad oes unrhyw un o’r aelodau eraill wedi colli eu clyw. Mae llai o fabanod yn cael eu geni â cholled ar y clyw yn un o’u clustiau. Mae babi a oedd angen gofal arbennig yn fwy tebygol o fod â cholled ar ei glyw.

O bob 10 o fabanod sy’n cael eu cyfeirio i gael asesu eu clyw ar ôl prawf sgrinio, bydd colled barhaol ar glyw un.