Neidio i'r prif gynnwy

Pam mae angen sgrinio clyw fy mabi?

Mae un neu ddau o bob 1000 o fabanod yn cael eu geni â cholled ar eu clyw. Bydd y mwyafrif o’r babanod hyn yn perthyn i deuluoedd sydd heb unrhyw un arall â cholled ar eu clyw. Nid yw’n hawdd i rieni ddweud a oes colled ar glyw babi ifanc. Mae cael gwybod am y golled yn gynnar yn bwysig wrth i’r babi ddatblygu. Mae hefyd yn golygu bod modd cynnig cymorth a gwybodaeth o’r dechrau un.

Mae sgrinio’r clyw yn ffordd i ni adnabod y babanod a allai fod â cholled ar eu clyw. Mae’r prawf sgrinio’n dangos pa fabanod sydd angen mwy o brofion er mwyn penderfynu a oes colled ar eu clyw.

Nid yw sgrinio’n dod o hyd i bob colled ar y clyw nac yn rhwystro problemau rhag datblygu

Cliciwch yma am fanylion ar sut rydym yn sgrinio clyw babi.