Dos yw’r enw a roddir ar swm yr ymbelydredd. Rydym yn gwirio ein hoffer i sicrhau ei fod yn rhoi'r cydbwysedd gorau rhwng y dos ac ansawdd y pelydr-x o’r fron ar gyfer pob bron unigol sy'n cael ei delweddu. Mae’r dosau a roir gan ein holl offer yn cydymffurfio â safonau'r DU. Rydym yn lleihau dos ymbelydredd diangen trwy sicrhau mai ychydig iawn o belydrau-x y mae angen eu hailadrodd.