Mae gan bob archwiliad pelydr-x unigol ei lefel risg ei hun. Er mwyn amcangyfrif effaith cael llawer o archwiliadau, mae'r risgiau'n cael eu hychwanegu at ei gilydd. Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth p'un a yw'r archwiliadau i gyd yn cael eu gwneud yn ystod un diwrnod neu'n cael eu gwneud dros gyfnod o nifer o flynyddoedd. Mae cyfanswm y risg yr un peth.