Rydym yn defnyddio mamograffeg (pelydrau-x o’r fron) i ddod o hyd i ganser y fron. Mae hyn yn golygu bod ymbelydredd yn cael ei basio trwy'ch bron i ffurfio llun. Gall ymbelydredd achosi canser, ond mae'r risg a ddaw o gael pelydr-x o’r fron yn isel iawn.
Mae'r buddiannau yn fwy o lawer na’r risg ymbelydredd.
Mae nifer y bywydau sy'n cael eu hachub trwy ganfod a thrin canser y fron yn fwy o lawer na nifer y bobl a allai farw oherwydd canser a achosir gan ymbelydredd.