Neidio i'r prif gynnwy

Eich canlyniadau

Ein nod yw anfon eich llythyr canlyniadau atoch drwy’r post o fewn tair wythnos o’ch apwyntiad. Bydd eich meddyg yn cael copi o’ch canlyniadau hefyd. 

Os bydd eich pelydr-x yn dangos nad oes angen profion pellach, cewch wahoddiad i ddod ar gyfer sgrinio eto ymhen tair blynedd.  

Gofynnir i rai pobl gael pelydr-x arall o'r fron cyn y gellir rhoi canlyniad.  Mae hyn oherwydd nad oedd y delweddau'n glir.  Byddwn yn dweud wrthych os dyma’r rheswm. 

Cewch wahoddiad ar gyfer sgrinio hyd nes y byddwch yn 70 oed.  Os ydych yn 70 oed neu hŷn, gallwch wneud apwyntiad i fynychu sgrinio y tro nesaf byddwn yn sgrinio yn eich ardal, trwy gysylltu â ni

Os bydd eich pelydr-x yn dangos newidiadau posibl yn eich bron, cynigir apwyntiad asesu i chi yn un o’r canolfannau sgrinio. Cewch eich gweld gan Arbenigwr a chael cynnig profion pellach. 

Os cewch wahoddiad am brofion pellach mae’n bwysig eich bod yn mynychu. Ceir rhagor o wybodaeth am apwyntiadau asesu ar gael yn y daflen

 

Beth fydd yn digwydd yn fy apwyntiad asesu? 

Gofynnir i tua phedair o bob 100 o fenywod ddod yn ôl am ragor o brofion ar ôl sgrinio. Mae hyn oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth cyn y gallwn roi canlyniad.  

Gallai’r profion hyn gynnwys: 

  • pelydrau-x 
  • archwiliad gan Arbenigwr  
  • sganiau uwchsain  
  • biopsi nodwydd   

Yn dibynnu ar ba brofion sydd eu hangen arnoch, mae’n bosibl y byddwch chi yn y clinig asesu am y rhan fwyaf o'r bore neu'r prynhawn. 

Mae’n bosibl y byddwch yn cael canlyniadau y diwrnod hwnnw neu efallai y bydd yn rhaid i chi aros.  Ein nod yw rhoi’r canlyniadau i chi o fewn pythefnos. 

 

Beth os fydd angen triniaeth arnoch?  

Os cewch ddiagnosis o ganser y fron, mae dod o hyd iddo'n gynnar yn rhoi'r cyfle gorau o gael triniaeth lwyddiannus. Byddwn yn trafod yr holl opsiynau triniaeth gyda chi er mwyn i chi wneud eich penderfyniad. 

I gael rhagor o wybodaeth a chymorth am ganser y fron, ewch i Breast Cancer Now (Saesneg yn unig)  

Darganfod mwy