Neidio i'r prif gynnwy

Rhesymau Pam Rydych Chi Angen Prawf Arall

 

 

Cynnwys

― Rhesymau Pam Rydych Chi Angen Prawf Arall 
Efallai bydd y staff yn cynnig rhai o’r profion canlynol i chi, neu bob un o’r profion
― Cysylltwch â ni
 

Rhesymau Pam Rydych Chi Angen Prawf Arall

Rydych chi wedi cael cais i ddod yn ôl i ganolfan Bron Brawf Cymru i gael mwy o brofion. Mae angen i ni ymchwilio i newidiadau a oedd i’w gweld ar y mamogramau (pelydrau-x o’r bronnau) a gawsoch yn ddiweddar gan fod posibilrwydd bod y newidiadau’n annormal.

Mae’r mamogramau’n cael eu darllen gan bobl sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig i ddarllen ffilmiau pelydr-x. Weithiau, mae’n gallu bod yn anodd adnabod y gwahaniaeth rhwng newidiadau diniwed (fel codenni [cysts] a lympiau ffibrog) ac achosion o ganser, heb wneud mwy o brofion yn y clinig asesu.

Nid canser yw’r mwyafrif o’r newidiadau sydd i’w gweld ar famogram, ac nid oes canser y fron ar y mwyafrif o’r menywod rydyn ni’n eu galw’n ôl. Weithiau mae angen gwneud mwy o brofion i’n helpu i benderfynu a yw’r newidiadau sydd i’w gweld ar eich mamogram yn ddiniwed neu beidio.

Mae gwneud y profion yma’n cymryd amser ac efallai byddwch chi’n treulio’r rhan fwyaf o’r bore neu’r prynhawn yn y ganolfan sgrinio. Mae’r mwyafrif o fenywod yn teimlo bod gwisgo top, gyda sgert neu drowsus, yn gwneud y broses yn fwy hwylus.

Mae croeso i chi ddod â rhywun gyda chi pan fyddwch chi’n dod i’r ganolfan sgrinio. Ni fydd y person hwnnw’n cael mynd i’r swît sgrinio gyda chi, ond bydd yn cael bod gyda chi pan fyddwch chi’n gweld yr ymgynghorydd.

 

Efallai bydd y staff yn cynnig rhai o’r profion canlynol i chi, neu bob un o’r profion:

Mwy o famogramau arbenigol.  Bydd radiograffydd yn tynnu mwy o belydrau-x o’ch bron a bydd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Archwiliad o’r fron. Mae’r mwyafrif o’r menywod rydyn ni’n eu galw’n ôl yn cael cyfle i arbenigwr archwilio’u bronnau. Bydd yr archwiliad a’r mamogramau eraill yn dangos yn aml fod unrhyw newidiadau’n ddiniwed. Bydd yr arbenigwr yn tawelu’ch meddwl ac yn dweud wrthych chi a fyddwch chi angen unrhyw apwyntiadau dilynol.

Sgan uwchsain. Bydd arbenigwr yn rhoi ychydig o gel ar eich bron ac yn symud chwiliedydd plastig dros y wyneb i greu delwedd uwchsain o feinweoedd y fron.

Biopsi. Bydd arbenigwr yn defnyddio nodwydd arbennig i dynnu sampl fach o feinwe o’ch bron ac weithiau o dan eich cesail. Bydd hwn yn cael ei wneud fel arfer dan anaesthetig lleol.

Ymhlith effeithiau prin ond andwyol biopsi mae: achlysuron lle mae angen ail-wneud y biopsi, haint, cleisio a allai fod yn ddrwg mewn achosion prin iawn neu lle mae gofyn i lawfeddyg ddraenio’r clais, niwed i’r nerfau a’r gwythiennau gwaed o dan y gesail neu ddifrod i fewnblaniadau yn y fron. Prin yw’r achosion o unrhyw adwaith i anaesthetig lleol. Mae achosion o wneud twll yn wal y frest a niweidio’r ysgyfaint neu’r galon yn brin iawn.

Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw symptomau newydd fel pendro neu effaith ar eich anadlu neu ar guriad eich calon ar ôl cael biopsi, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ddarparwr gwasanaeth brys i ofyn am gyngor. Mae’r effeithiau yma’n anarferol iawn.

Efallai bydd y staff yn rhoi’r canlyniadau i chi cyn i chi adael y ganolfan sgrinio, ond ni fydd canlyniadau biopsi ar gael am rai dyddiau. Cyn i chi adael y ganolfan byddwch chi’n cael apwyntiad i ddod yn ôl mewn wythnos neu ddwy i gael canlyniadau biopsi. Dim ond ychydig iawn o’r menywod sy’n cael eu galw’n ôl fydd â chanser. Os bydd canser y fron arnoch chi byddwch chi’n cael trafod eich dewisiadau o ran triniaeth gyda’ch llawfeddyg arbenigol. Bydd nyrs gofal y fron arbenigol ar gael hefyd i fod yn gefn i chi.

Diagnosis cynnar sy’n rhoi’r cyfle gorau i fenyw wella’n llwyr. Mae’r mwyafrif o achosion o ganser y fron sy’n dod i’r amlwg yn brydlon yn cael eu trin yn llwyddiannus. Nid yw sgrinio’n ffordd o atal canser ac fel y mwyafrif o brofion, nid yw’n gwbl gywir 100% o’r amser. Mae hyn yn golygu na fydd rhai achosion o ganser yn dod i’r amlwg. Mae hefyd yn gallu golygu y bydd rhai menywod efallai’n cael profion neu archwiliadau diangen.

Darllenwch yn ofalus y llythyr a gawsoch gyda’r daflen er mwyn cadarnhau manylion eich apwyntiad.

 

Cysylltwch â ni

Ewch i'n tudalen cysylltu â ni

Rydym yn croesawu gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth yn Gymraeg heb oedi.