Neidio i'r prif gynnwy

A fydd y diferion yn achosi unrhyw sgil-effeithiau?

Weithiau mae’n bosibl y bydd eich ceg yn sych ar ôl cael y diferion, ond dim ond rhywbeth dros dro fydd hyn.  Mewn achosion prin iawn, gall y diferion achosi cynnydd mewn pwysedd yn y llygad.

Symptomau hyn yw:

•       poen neu anesmwythder difrifol yn neu o amgylch eich llygad

•       cochni yng ngwyn eich llygad

•       golwg aneglur sy’n gwaethygu neu sy’n barhaus ychydig oriau ar ôl cael eich sgrinio, weithiau gyda chylchoedd o liwiau’r enfys o amgylch goleuadau,

•       cyfog neu chwydu.

https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/sgrinio-llygaid-diabetig-cymru/adnoddau-gwybodaeth/taflenni/ar-ol-eich-sgrinio-llygaid-diabetig1/

Os cewch unrhyw rai o’r symptomau hyn ar ôl cael eich sgrinio, dylech gael eich gweld ar unwaith gan eich optometrydd, neu dylech fynd i’r adran damweiniau ac achosion brys.  Ni ddylech oedi oherwydd efallai y bydd angen triniaeth arnoch i leihau’r pwysedd yn eich llygad.