Fel arfer, does dim angen cymorth meddygol brys yn achos gorludded gwres, dim ond sicrhau bod y claf yn cael ei oeri o fewn 30 munud.
Os yw'n troi’n drawiad gwres, mae hynny'n argyfwng.
Chwiliwch am arwyddion o orludded gwres
- blinder
- pendro
- cur pen
- teimlo cyfog neu chwydu
- bod yn chwyslyd iawn a chroen gwelw a llaith neu gael brech gwres, (cofiwch – mae’n fwy anodd gweld newid lliw ar groen brown a du)
- cramp yn y breichiau, coesau a stumog
- anadlu neu guriad y galon yn cyflymu
- tymheredd uchel
- bod yn sychedig iawn
- teimlo'n wan
Mae symptomau gorludded gwres yn aml yr un fath mewn oedolion a phlant, ond gall plant hefyd fynd yn anniddig.
Os yw’n ymddangos bod rhywun yn dioddef o orludded gwres, dylech eu helpu i:
- Orwedd neu eistedd i lawr mewn lle oer
- Tynnu unrhyw siaced, siwmper neu sanau
- Yfed ychydig o ddŵr neu sudd ffrwythau - NID alcohol, te, coffi na diod egni.
- Oeri eu corff – trwy ddefnyddio chwistrell ddŵr neu sbwng gyda dŵr oer a defnyddio gwyntyll. Mae lapio pecyn oeri mewn lliain yn ddefnyddiol.
Dylech aros gerllaw nes eu bod yn teimlo’n well. Fe ddylen nhw ddechrau oeri a theimlo'n well o fewn 30 munud.
Am ragor o help, ffoniwch 111 neu defnyddiwch 111 ar-lein.
Ffoniwch 999
Os oes gennych chi neu rywun arall arwyddion o drawiad gwres, yn cynnwys:
- bod yn sâl ar ôl 30 munud o orffwys mewn lle oer, a chael eich oeri a chael diod
- tymheredd uchel iawn
- croen poeth sydd heb ddim chwys ac sy’n edrych yn goch efallai (gall fod yn fwy anodd gweld hyn ar groen brown a du)
- curiad calon cyflym
- anadlu'n gyflym iawn neu fod yn brin o anadl
- dryswch a diffygion cydsymud
- cael trawiad neu ffit
- colli ymwybyddiaeth
Rhowch y person mewn ystum adfer os bydd wedi colli ymwybyddiaeth wrth i chi aros am help.