Neidio i'r prif gynnwy

Os bydd llifogydd yn eich taro

  • Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys
  • Cadwch draw o ddŵr llifogydd. Peidiwch â cherdded, gyrru na gadael i blant neu anifeiliaid anwes chwarae mewn llifddyfroedd.
  • Os oes rhaid i chi fynd i mewn i'r dŵr, gwisgwch fenig ac esgidiau rwber a chofiwch edrych yn ofalus am unrhyw beryglon cudd. 
  • Os oes gennych anaf neu friw, dylech ei gadw’n lân ac yn sych. Rhowch blaster a rhwymyn gwrth-ddŵr drostyn nhw.
  • Cofiwch ymolchi’ch dwylo, yn enwedig ar ôl bod yn y toiled, cyn bwyta neu wrth baratoi bwyd - dyma'r ffordd bwysicaf o ddiogelu rhag clefydau niweidiol. Os nad oes gennych chi ddŵr glân, defnyddiwch hylif neu glytiau diheintio. 
  • Os ewch chi’n sâl ar ôl llyncu dŵr o lifogydd neu laid ar ddamwain, yn enwedig os byddwch yn datblygu dolur rhydd, twymyn neu boen stumog o fewn 10 diwrnod o fod mewn cysylltiad â dŵr llifogydd neu garthffosiaeth - cysylltwch â Galw Iechyd Cymru 111 neu eich meddyg
  • Peidiwch â throi offer trydanol ymlaen os yw wedi bod mewn dŵr llifogydd nes bod trydanwr cymwys wedi gwirio’r offer, gan fod perygl o gael eich trydanu.
  • Dylai’r offer gwresogi a choginio gael gwasanaeth gan beiriannydd Gas Safe, hyd yn oed os yw'n edrych fel petai’n gweithio fel arfer. Mae perygl o wenwyn carbon monocsid os nad yw’r offer yn gweithio'n