Neidio i'r prif gynnwy

Llifogydd ac Iechyd Meddwl

Peidiwch â bychanu'r pwysau a'r straen o ymdopi â llifogydd a’r gwaith glanhau. Cymerwch amser i ystyried eich iechyd meddwl a'ch lles eich hun a'ch anwyliaid. 

Peidiwch â’i gorwneud hi pan ewch ati i lanhau. Pan fyddwch wedi dioddef llifogydd, ymateb cyffredin yw teimlo'n flinedig, gofidus neu bryderus, neu gael trafferth cysgu. Os ydych chi'n poeni am eich iechyd meddwl eich hun neu iechyd meddwl rhywun arall, gofynnwch am gymorth gan deulu a ffrindiau, eich meddyg teulu neu am gymorth arbenigol arall.

Os ydych chi'n helpu rhywun sydd wedi cael ei effeithio gan lifogydd, mae ffyrdd syml y gallwch gynnig cymorth:

  • Ceisiwch ddod yn ymwybodol o hyd a lled natur y digwyddiad llifogydd, nodi’r cymorth sydd ar gael i’r rhai a gafodd eu heffeithio, ac a oes perygl o lifogydd yn y dyfodol.
  • Gwnewch yn siŵr eu bod yn ddiogel. Helpwch nhw i gysylltu ag asiantaethau adfer ar ôl llifogydd os oes angen.
  • Sylwch a oes anghenion iechyd corfforol sydd angen sylw’n syth, er enghraifft, efallai fod angen ambiwlans neu fod angen iddyn nhw fynd i’r ysbyty.
  • Gofynnwch am anghenion megis bwyd, dŵr, lloches a meddyginiaeth.
  • Ewch ati i helpu pobl i gysylltu â'u hanwyliaid ac eraill sy'n gallu darparu ffynonellau cymorth cyfarwydd
  • Nodwch ffyrdd ymarferol a diogel o’u helpu i ddiwallu eu hanghenion a’u tywys at y gwasanaethau priodol
  • Byddwch yn glust i wrando, rhannwch unrhyw wybodaeth sydd gennych chi, ac ewch ati i helpu pobl i wneud cynlluniau ar gyfer y camau nesaf.