Neidio i'r prif gynnwy

Llifogydd a phlant

  • Peidiwch â gadael i blant chwarae mewn dŵr llifogydd.
  • Dylai plant ymolchi eu dwylo’n aml, cyn pob pryd bwyd bob tro.
  • Os bydd babi yn sâl â dolur rhydd ac yn chwydu ar ôl bod mewn cysylltiad â dŵr llifogydd, dylai’r rhieni ofyn am gyngor meddygol gan Galw Iechyd Cymru 111 neu feddyg teulu.
  • Peidiwch â gadael i blant chwarae ar arwynebau caled mwdlyd nes eu bod wedi'u glanhau. Mae golau haul a phridd yn helpu i ddinistrio heintiau niweidiol, felly fel rheol bydd yn ddiogel i blant chwarae ar laswellt ar ôl tua wythnos. 
  • Dylai teganau sydd wedi'u halogi â dŵr llifogydd gael eu golchi mewn dŵr poeth a glanedydd. Gellir rhoi teganau meddal yn y peiriant golchi ar dymheredd poeth (60 ° C).