Neidio i'r prif gynnwy

Glanhau

  • Gwisgwch ddillad amddiffynnol: esgidiau rwber, ffedog a menig rwber. Mae gwisgo mwgwd wyneb safonol, fel y rhai sy'n cael eu gwerthu mewn siopau DIY, hefyd yn syniad da os ydych chi'n sgwrio, yn defnyddio pibell ddŵr neu’n golchi dan wasgedd. Mae gogls hefyd yn amddiffyniad ychwanegol i’ch llygaid a gallwch eu hailddefnyddio ar ôl eu golchi'n drylwyr.
  • Defnyddiwch ddŵr poeth a sebon i lanhau’r holl arwynebau caled a gafodd eu heffeithio, yn cynnwys waliau, lloriau a dodrefn, a defnyddiwch gynhyrchion glanhau cartref cyffredin. Bydd angen i’r cyfan sychu’n drylwyr gan fod hyn hefyd yn helpu i ddinistrio unrhyw germau sy’n weddill.
  • Peidiwch â chymysgu unrhyw gynhyrchion glanhau gyda'i gilydd neu â hylif cannu oherwydd gall hyn ryddhau mygdarth peryglus.
  • Golchwch eitemau ffabrig meddal ar gylch poeth (60°C neu uwch), er mwyn dinistrio'r rhan fwyaf o germau. Bydd angen i eitemau na ellir eu rhoi mewn peiriant golchi dillad gael eu glanhau yn broffesiynol. Dylid cynghori glanhawyr arbenigol bod yr eitem wedi dod i gysylltiad â dŵr llifogydd. Os nad yw hyn yn bosibl, efallai y bydd rhaid eu taflu i ffwrdd.
  • Dylech olchi’r holl ddillad sy’n cael eu gwisgo yn ystod y broses lanhau ar wahân.
  • Bydd gwresogi ac awyru da yn helpu'r broses sychu. Gadewch y drysau a'r ffenestri ar agor pan fo modd a phan fydd yn ddiogel. Gallwch helpu'r broses hon trwy ddefnyddio gwyntyllau, ac unedau aerdymheru a sychu lleithder.
  • Peidiwch â defnyddio generadur petrol neu ddiesel mewn adeiladau er mwyn sychu cartrefi ac adeiladau. Mae perygl difrifol o wenwyn carbon monocsid a all ladd. 
  • Cofiwch ymolchi'ch dwylo'n gyson a chael egwyl yn rheolaidd yn yr awyr iach.