Agor mewn ffenestr newydd
Symptomau gwenwyn CO
- Mae symptomau gwenwyn CO yn cynnwys: cur pen, cyfog, pendro/penysgafn, diffyg anadl, gwendid, poen yn y frest ac anymwybyddiaeth
- Gall bod yn agored i lefelau isel o CO am gyfnod hir achosi problemau iechyd difrifol hefyd.
- Peidiwch ag anwybyddu symptomau gwenwyn CO, yn enwedig pan;
- mae gan bobl yn yr un lle symptomau tebyg,
- ydych wedi symud tŷ yn ddiweddar,
- ydych wedi cael offer newydd wedi'i osod, fel boeler neu losgydd coed,
- ydych wedi cael gwneud gwaith adeiladu,
- ydych yn teimlo'n well pan fyddwch y tu allan,
- ydych wedi cynnau'r gwres yn ddiweddar.