Neidio i'r prif gynnwy

Risgiau Iechyd

Dim ond os oes llwybr i’r llygredd gyrraedd y corff fydd llygredd tir yn peri risg i iechyd. Mae’r llwybrau hyn yn cynnwys anadlu nwyon a gronynnau, bwyta pridd (yn enwedig plant), bwyta bwyd llygredig neu yfed dŵr llygredig, neu ddeunydd wedi llygru’n dod i gysylltiad â’r croen.

Mae prosesau pendant yn eu lle i reoli ac atal cyswllt o’r fath, sy’n cael eu gweithredu yng Nghymru drwy gyfrwng naill ai’r drefn gynllunio, neu’r Drefn Tir Llygredig a Chanllawiau Statudol Tir Llygredig Cymru 2012.