Neidio i'r prif gynnwy

Ein rôl ni

Yng Nghymru, gorwedd y cyfrifoldeb am ddelio gyda thir llygredig gydag awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bennaf. Nid oes gan Iechyd Cyhoeddus Cymru unrhyw rôl statudol yn y broses ond gall gynnig cyngor arbenigol i helpu i liniaru risgiau i’r cyhoedd yn ystod y gwaith o asesu ac adfer (glanhau) y tir, a’i ddefnyddio yn y dyfodol. Hefyd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori Llywodraeth Cymru ar bolisi i warchod iechyd cyhoeddus ac i sicrhau’r manteision gorau posib ac ailddefnydd cynaliadwy yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Os oes gennych chi bryderon am lygredd tir, cysylltwch â’ch awdurdod lleol i ddechrau.