Neidio i'r prif gynnwy

Sut gellir lleihau'r peryglon i iechyd?

Nid yw pob gordyfiant algâu gwyrddlas yn wenwynig ond ni allwch ddweud os yw gordyfiant yn wenwynig drwy edrych arno.  Os gwelwch ordyfiant algâu mae'n well tybio ei fod yn niweidiol a dilyn y rhagofalon canlynol:
 

  • Peidio â nofio yn y dŵr 
  • Peidio â llyncu’r dŵr 
  • Osgoi dod i gysylltiad â’r algâu 
  • Peidio â bwyta pysgod a gaiff eu dal yn y dŵr 
  • Darllen a chadw at wrth unrhyw rybuddion sydd wedi'u gosod o amgylch y dŵr 

 
Dylai unrhyw un sydd wedi dod i gysylltiad â dŵr sy'n cynnwys algâu gwyrddlas gael cawod gyda dŵr ffres ar unwaith. Os ydych wedi yfed neu ddod i gysylltiad â dŵr sydd wedi'i effeithio, ac nad ydych yn teimlo'n dda, dylech gael sylw meddygol. Yn gyffredinol, mae'r symptomau'n dechrau o fewn oriau ar ôl y cysylltiad.
 
Mae'r gwenwyn a all gael ei gynhyrchu gan algâu hefyd yn wenwynig i anifeiliaid a gallant achosi salwch difrifol a marwolaeth. Dylai ffermwyr a pherchnogion anifeiliaid anwes sicrhau nad yw eu hanifeiliaid yn gallu cael gafael ar ddŵr sydd wedi'i effeithio.

Mae algâu gwyrddlas yn effeithio ar ddŵr croyw yn bennaf.  Gall rhai mathau o algâu morol yn ein moroedd ffurfio gordyfiant algaidd hefyd a gall rhai o'r rhain fod yn wenwynig.  Am ragor o wybodaeth am ordyfiant algâu’r môr ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.