Neidio i'r prif gynnwy

Pa broblemau mae algâu gwyrddlas yn eu hachosi?

  • Gallant gael effaith andwyol ar olwg, ansawdd a defnydd y dŵr. Gall y dŵr fod wedi troi’n wyrdd, yn wyrddlas neu'n frownwyrdd a gall sawl rhywogaeth gynhyrchu aroglau llwydni, priddlyd neu welltog.
  • Gall gordyfiant hefyd achosi ewyn ar draethlin sydd weithiau'n cael ei gamgymryd am lygredd carthion.
  • Pan fydd gordyfiant algâu gwyrddlas yn marw ac yn pydru, bydd yn defnyddio’r ocsigen yn y dŵr a gall hyn ladd pysgod a bywyd dyfrol arall.
  • Mae rhai algâu gwyrddlas yn gallu cynhyrchu gwenwyn. Mewn crynodiadau digon uchel mae'r gwenwyn hwn yn gallu lladd anifeiliaid gwyllt, da byw fferm ac anifeiliaid anwes domestig. Gallant hefyd fod yn niweidiol i iechyd pobl.