Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r peryglon i iechyd?

Gall algâu gwyrddlas gynhyrchu sawl gwenwyn gwahanol sy'n niweidiol i iechyd pobl. Efallai eich bod mewn perygl pan fyddwch yn defnyddio llyn neu gorff arall o ddŵr sy'n cynnwys gordyfiant.  Gallech fod yn agored i berygl yn ystod unrhyw weithgaredd lle gallech ddod i gysylltiad â'r dŵr, llyncu’r dŵr neu anadlu diferion dŵr, er enghraifft wrth nofio, hwylio a mynd ar gwch, sgïo dŵr neu hyd yn oed bysgota.

Gall y gwenwyn hwn achosi:

  • Brech ar y croen, 
  • Cyfog, 
  • Chwydu, 
  • Poenau stumog, 
  • Tymheredd uchel,
  • Cur pen,
  • Yn achlysurol, salwch mwy difrifol fel niwed i'r ymennydd a'r iau/afu.