Mae Codi'r Wefus yn rhan o sesiynau hyfforddi Cynllun Gwên a ddarperir i dimau ymwelwyr iechyd. Offeryn asesu iechyd y geg yw Codi’r Wefus sy’n ei gwneud yn ofynnol i rieni/gwarcheidwaid archwilio dannedd blaen uchaf eu plant cyn-ysgol ym mhresenoldeb gweithwyr iechyd proffesiynol, er mwyn adnabod arwyddion o bydredd dannedd mewn plentyndod cynnar. Bwriedir iddo gael ei ddefnyddio wrth ddarparu cyngor ataliol, ac annog a hwyluso'r defnydd o wasanaethau deintyddol clinigol. Nod Codi'r Wefus yng Nghymru yw cryfhau rôl hybu iechyd y geg ymwelwyr iechyd.
Pwyntiau allweddol:
• Mae dannedd babi yn bwysig
• Mae atal pydredd dannedd yn haws na'i drin
• Mae pydredd yn digwydd yn gyflym iawn i ddannedd babanod
• Y cynharaf y caiff pydredd ei ganfod, y gorau fydd y canlyniad
• Gwiriwch ddannedd eich plentyn gartref yn aml
• Ewch â'ch plentyn at ddeintydd yn rheolaidd, yn ddelfrydol cyn gynted ag y bydd ei ddannedd cyntaf yn ymddangos
Pwrpas Codi'r Wefus yw:
• annog rhieni i archwilio dannedd eu plentyn yn aml am arwyddion o bydredd dannedd a dangos iddynt sut i wneud hynny
• tynnu sylw at risg unigol o bydredd dannedd a rhoi cyngor penodol ar sut i'w atal
• pwysleisio pwysigrwydd iechyd y geg da
• asesu anghenion unigol am wasanaethau deintyddol, a hwyluso’r defnydd o'r gwasanaethau hynny
I gael hyfforddiant ac adnoddau Codi'r Wefus, cysylltwch â’ch tîm Cynllun Gwên lleol