Neidio i'r prif gynnwy

Brwsio Dannedd yn y Feithrinfa a'r Ysgol

Brwsio dannedd mewn poster Meithrin ac Ysgol

Mae’r Cynllun Gwên yn cefnogi brwsio dannedd dan oruchwyliaeth i blant mewn rhai meithrinfeydd ac ysgolion cynradd yng Nghymru.  Bydd y plant yn brwsio eu dannedd yn yr ysgol neu'r feithrinfa bob dydd, gyda phast dannedd fflworid sy'n helpu i atal pydredd dannedd. 

Nid yw hyn yn lle brwsio dannedd gartref ddwywaith y dydd, ond yn ogystal â brwsio dannedd gartref.   Dylech barhau i frwsio dannedd eich plentyn ddwywaith y dydd gartref a rhoddir brws dannedd a phast dannedd fflworid am ddim i'r plant eu defnyddio gartref.

Caiff pob rhaglen mewn meithrinfa neu ysgol ei threfnu mewn ffordd ddiogel ac effeithiol. Bydd arweinydd a fydd yn gyfrifol am y rhaglen brwsio dannedd.

Rhoddir rhaglen hyfforddi fanwl i’r staff a chynhelir gwiriadau o leiaf unwaith y tymor yn erbyn safonau cenedlaethol ar gyfer arferion gorau.

Defnyddir past dannedd fflworid ‘i’r teulu’ sy’n cynnwys 1350-1500 rhan y filiwn (ppm) o fflworid yn y rhaglen ar gyfer plant dros 3 oed. Defnyddir swm o bast dannedd fflworid sydd yr un faint â physen.

Defnyddir past dannedd sy’n cynnwys 1000 ppm o fflworid ar gyfer plant dan 3 oed. Defnyddir haen denau o bast dannedd fflworid.

Mae gweithgynhyrchydd y past dannedd a ddefnyddir gan y Cynllun Gwên wedi cadarnhau nad oes dim byd sy’n deillio o anifeiliaid ynddo a’i fod yn addas i lysieuwyr ei ddefnyddio.

Pwyntiau pwysig!

  • Mae’r plant bob amser yn cael eu goruchwylio wrth frwsio
  • Mae gan bob plentyn frws dannedd ei hun wedi’i labelu
  • Maent yn cael brwsys dannedd newydd o leiaf unwaith y tymor neu’n amlach os bydd angen
  • Rhoddir y swm cywir o bast dannedd ar frws sych i’r plant, yna maent yn brwsio am tua dwy funud
  • Bydd y goruchwylwyr yn annog y plant i osgoi llyncu’r past dannedd yn ystod neu ar ôl brwsio. Dylent boeri’r past dannedd sydd dros ben ond peidio â rinsio
  • Mae pob brws dannedd yn cael ei rinsio'n drylwyr cyn ei storio'n ddiogel ar gyfer y tro nesaf

Sut y gellir atal croeshalogi?

  • Mae’r staff yn golchi eu dwylo cyn ac ar ôl pob sesiwn brwsio dannedd
  • Mae gan bob plentyn frws dannedd ei hun wedi’i labelu
  • Caiff brwsys dannedd eu glanhau ar ôl eu defnyddio a'u cadw'n ddiogel
  • Caiff brwsys dannedd eu storio mewn system ddiogel arbennig er mwyn sicrhau nad ydynt yn cyffwrdd â’i gilydd
  • Caiff yr holl offer storio eu golchi’n wythnosol gyda dŵr poeth a sebon a’u cyfnewid os bydd craciau, crafiadau neu arwynebau garw arnynt
  • Caiff brwsys dannedd sydd wedi treulio neu wedi’u gollwng yn ddamweiniol eu disodli â rhai newydd yn aml
  • Cedwir at ddulliau glanhau fel yr ysgrifennwyd yn y protocol rheoli traws-heintio 
  • Cynhelir cyfarfodydd sicrwydd ansawdd i sicrhau bod y rhaglen yn cael ei gweithredu’n gywir