Neidio i'r prif gynnwy

Wythnos Hinsawdd Cymru 2022

Wythnos Hinsawdd Cymru 2022

Digwyddiad blynyddol yw Wythnos Hinsawdd Cymru sy’n dod ag unigolion, cymunedau, grwpiau amgylcheddol, academyddion, busnesau a’r sector cyhoeddus ynghyd i drafod y newid yn yr hinsawdd.

Dydd Llun 21 – Dydd Gwener 25 Tachwedd 

Thema: Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Gweithredu ar Newid Hinsawdd 

Bydd yr Wythnos eleni’n cael ei chynnal yn union ar ôl COP27 (uwchgynhadledd ryngwladol nesaf ‘Cynhadledd y Partïon’ ar newid hinsawdd, yn yr Aifft rhwng 7 a 18 Tachwedd). 

Bydd yr wythnos yn dechrau gyda rhith-gynhadledd 2-3 diwrnod, lle bydd cyrff Tîm Cymru a Negeseuwyr Dibynadwy yn trafod rôl y cyhoedd (unigolion) o ran gweithredu ar newid hinsawdd. Bydd y rhith-gynhadledd yn edrych hefyd ar heriau taclo’r bygythiadau a ddaw yn sgil hinsawdd sy’n newid law yn llaw â’r argyfwng costau byw. Byddwn yn ystyried beth yw’r atebion i’r her dwbl hwn i aelwydydd ledled Cymru. 

Rhaglen y Gynhadledd Rithwir

Nod y gynhadledd rithwir 3 diwrnod hon yw dwyn ynghyd bartneriaid Tîm Cymru er mwyn iddynt allu archwilio’r polisïau a’r atebion sy’n angenrheidiol ar gyfer cynorthwyo’r cyhoedd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Er y bydd y gynhadledd rithwir yn cael ei hanelu at sefydliadau sy’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen ymgysylltu gydweithredol â’r cyhoedd, bydd modd i bawb sy’n dymuno ymuno â’r sgwrs fynychu’r gynhadledd yn rhad ac am ddim (yn cynnwys y cyhoedd).

Mae’r sesiynau rhithwir yn dal i gael eu cynllunio. Yn fras, byddant yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

  • Sesiwn agoriadol – cyd-destun y strategaeth ddrafft newydd, sef ‘Strategaeth ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Gweithredu gan y Cyhoedd ar Newid Hinsawdd 2022-2026’.

  • Y cyd-destun rhyngwladol – dysgu gan wledydd eraill ac ystyried yr effaith a gaiff ein harferion prynu a defnyddio ar allyriadau byd-eang.

  • Yr argyfwng costau byw a’r argyfwng ynni – ymateb i’r heriau dwbl sy’n gysylltiedig â’r argyfyngau hinsawdd ac ynni trwy gyflwyno arbedion ynni mewn aelwydydd a throi’n gyflymach at ynni adnewyddadwy a dulliau teithio gwyrddach.

  • Cyfiawnder cymdeithasol – sicrhau tegwch wrth gyflawni datgarboneiddio trwy ddeall yn well beth yw effeithiau newid hinsawdd, pa gamau neu bolisïau y mae eu hangen i liniaru newid hinsawdd, a’r effeithiau ar lesiant pobl.

  • Pobl ifanc – gwrando ar bobl ifanc ac ymgysylltu â nhw, gan roi iddynt rôl ddilys yn y dasg o lunio’u dyfodol.

  • Yr hinsawdd a natur – atebion polisi cydgysylltiedig a defnyddio dull a fydd yn datrys amryfal broblemau wrth ymdrin â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

  • Addasu i newid hinsawdd – gwella dealltwriaeth a sicrhau y gall unigolion a chymunedau wrthsefyll newid hinsawdd yn well mewn perthynas â’r risgiau newid hinsawdd sydd eisoes yn annatod.

  • Datgarboneiddio – rôl unigolion ac aelwydydd (y cyhoedd) a chyfleu dewisiadau hinsawdd er mwyn cyflawni’r llwybr tuag at sero net.

  • Gwyddor ymddygiadol – pwysigrwydd gwyddor ymddygiadol o ran deall cymhellion a rhwystrau rhag gweithredu yn y gymdeithas.

  • Goresgyn rhwystrau rhag gweithredu – darparu atebion seilwaith ar raddfa fawr ac yn gyflym er mwyn sicrhau mai’r ‘peth iawn i’w wneud fydd y peth normal, hawdd, deniadol ac arferol i’w wneud’ ar gyfer y cyhoedd. (Yn cynnwys sesiynau a fydd yn treiddio’n ddwfn i feysydd polisi sectorau fel ymddygiadau ynni, teithio a defnyddio, ac adolygu llwyddiannau a methiannau rhaglenni eraill a anelai at newid ymddygiad.)

  • Diwydiannau, gwyddoniaeth ac arloesi – archwilio rôl gwyddoniaeth ac arloesi o ran datblygu atebion fforddiadwy a goresgyn rhwystrau rhag gweithredu yn y gymdeithas.

  • Cyfathrebu – rôl cyfathrebu o ran meithrin gwybodaeth, cyfleu’r cydfanteision a chreu normau cymdeithasol yn ymwneud â gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd, yn cynnwys pwysigrwydd negeseuon cyfathrebu cenedlaethol amlwg a phenodol er mwyn cyrraedd gwahanol gynulleidfaoedd ac ysgogi dylanwadwyr a negeswyr priodol.

  • Y Celfyddydau, Diwylliant a’r Diwydiannau Creadigol – y rôl bwerus sydd gan y celfyddydau, diwylliant a’r diwydiannau creadigol o ran ennyn diddordeb y gymdeithas mewn gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

  • Cydweithredu – adeiladu ar ddull Tîm Cymru ac ysgogi atebion yn uwch i fyny’r gadwyn.

  • Gosod esiampl o weithredu cadarnhaol gan y Llywodraeth a chan fusnesau – dylai busnesau a’r sector cyhoeddus arwain trwy esiampl; mae hyn yn hollbwysig o ran gwneud i bobl deimlo nad ydynt yn mynd i’r afael â newid hinsawdd ar eu pen eu hunain.

  • Atebion lleol – archwilio camau a gymerir yn lleol ar hyn o bryd i ymdrin â newid hinsawdd ac archwilio cyfleoedd i ymestyn camau o’r fath yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

  • Defnyddio adnoddau yn y ffordd fwyaf effeithiol – canolbwyntio ar gyd-ddatblygu a chydgyflawni, gan weithio ar ffurf Tîm Cymru i gyflwyno rhaglen gydweithredol ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd.

  • Mesur llwyddiant – archwilio sut y mae camau a gymerir gan unigolion yn cysylltu’n glir â llwybr datgarboneiddio Cymru, er mwyn i bobl allu deall yr effaith a gaiff eu camau ar newid hinsawdd.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal sesiwn yn ymwneud ag unrhyw un o’r pynciau uchod, os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn sesiwn o’r fath, neu os oes gennych gynigion eraill ar gyfer cynnal sesiwn fel rhan o raglen y gynhadledd rithwir, llenwch y ffurflen gais yma. Os bydd gennych ymholiadau’n ymwneud â llenwi’r ffurflen, anfonwch e-bost i’r cyfeiriad walesclimateweek@freshwater.co.uk.

 

Cofrestrwch nawr