Neidio i'r prif gynnwy

Cynaliadwyedd Amgylcheddol

Iechyd Planedol: Gweithred Cyflogwr ar Gynaliadwyedd Amgylcheddol

 

Iechyd Planedol: Gweithred Cyflogwr ar Gynaliadwyedd Amgylcheddol Podlediad

 

 Effeithiau'r newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ffeithluniau sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd effaith newid yn yr hinsawdd ar iechyd a llesiant poblogaeth Cymru, ac i gefnogi cyrff cyhoeddus a busnesau i gymryd camau i fynd i'r afael ag unrhyw effeithiau.

Wedi'i lansio i gyd-fynd â Chynhadledd y Partïon 26 (COP26), mae'r ffeithluniau'n canolbwyntio ar y berthynas rhwng yr amgylchedd naturiol ac iechyd, y grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt a rhai o effeithiau allweddol iechyd a llesiant newid yn yr hinsawdd a'r grwpiau poblogaeth hynny y gellid effeithio arnynt.

 

 

 

 

Wythnos Hinsawdd Cymru 2022

Nod y gynhadledd rithwir 3 diwrnod hon yw dwyn ynghyd bartneriaid Tîm Cymru er mwyn iddynt allu archwilio’r polisïau a’r atebion sy’n angenrheidiol ar gyfer cynorthwyo’r cyhoedd i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Er y bydd y gynhadledd rithwir yn cael ei hanelu at sefydliadau sy’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen ymgysylltu gydweithredol â’r cyhoedd, bydd modd i bawb sy’n dymuno ymuno â’r sgwrs fynychu’r gynhadledd yn rhad ac am ddim (yn cynnwys y cyhoedd).