Neidio i'r prif gynnwy

Sut ydw i'n annog gweithwyr i gael eu brechu?

Lle mae brechlyn yn bodoli, yr amddiffyniad gorau rhag haint (ac amddiffyn eraill) yw brechu. Cael brechlyn ffliw blynyddol yw un o'r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag dal a lledaenu'r ffliw neu COVID-19.

Bydd y GIG yn cynnig y brechlynnau ffliw a/neu COVID-19 am ddim i rai gweithwyr, er enghraifft menywod beichiog, rhai dros 65 oed, a phobl â chyflyrau iechyd hirdymor sy'n eu rhoi mewn perygl, yn ogystal â gofalwyr cyflogedig neu ddi-dâl. Dylai'r rhai sy'n gweithio mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol gael cynnig brechlynnau gan eu cyflogwr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Gellir cynnig brechlynnau eraill drwy'r gweithle hefyd yn dibynnu ar amgylchiadau, e.e. staff gofal mewn perthynas â firysau a gludir gan waed neu dwbercwlosis (TB), neu MMR i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yma.

Gallai cyflogwyr ystyried y camau canlynol:

  • Pan gaiff gweithwyr wahoddiad i gael brechlyn, byddwch mor hyblyg â phosibl er mwyn caniatáu iddyn nhw fanteisio ar y cynnig hwn, er enghraifft, trwy ddarparu absenoldeb â thâl i fynd i apwyntiadau brechu.
  • Mae gan rai cyflogwyr gontract gyda’r GIG neu ddarparwr preifat i gynnig brechiadau ffliw, neu dalebau ar gyfer pigiadau ffliw, i'w holl staff. Fodd bynnag, does dim gofyniad cyfreithiol iddyn nhw wneud hyn.
  • Dosbarthu neu arddangos gwybodaeth y GIG am frechiadau i sicrhau bod staff yn gallu cael gafael ar wybodaeth ddibynadwy a chywir sy'n seiliedig ar dystiolaeth - mae rhai enghreifftiau i'w gweld yma.

Creu eiriolwyr yn y gweithle i rannu profiadau cadarnhaol o'r brechlyn drwy gylchlythyrau a systemau cyfathrebu staff eraill.