Neidio i'r prif gynnwy

Atal a Rheoli Heintiau

Mae atal a rheoli heintiau (gan gynnwys clefydau trosglwyddadwy) yn y gweithle yn bwysig er mwyn diogelu staff a chleientiaid. Fe wnaeth pandemig COVID-19 dynnu sylw at yr effaith sylweddol y gall achosion o heintiau ei chael ar iechyd gweithwyr a gallu sefydliadau i weithredu.

Gall rhai heintiau (anadlol a gastroberfeddol) ledaenu'n gyflym drwy'r gweithlu, e.e. ffliw, COVID-19 neu norofirws. I rai pobl, gallant achosi salwch difrifol, e.e. ymhlith unigolion bregus fel rhai sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol.

Efallai bod mathau eraill o heintiau’n lledaenu'n fwy cyfyngedig, ond gallant gael goblygiadau difrifol i fusnes a'i gleientiaid, e.e. campylobacter neu salmonela ymhlith rhai sy'n trin bwyd.

Gall hyd yn oed haint â symptomau tymor byr sy'n achosi mân salwch, fel firysau gaeaf mwy cyffredin, gael effaith barhaus ar gynhyrchiant a pharhad busnes gan achosi'r mwyaf o absenoldeb salwch tymor byr. Felly, mae datblygu a gweithredu arferion da mewn perthynas ag atal a rheoli heintiau ar draws yr amgylchedd gwaith ac ymhlith y gweithlu yn bwysig ac yn gwneud synnwyr busnes da.

Canran yr achosion o absenoldeb salwch, yn ôl y pum prif reswm yn 2022, y DU, 2019 i 2022

 

Yn y DU yn 2022 roedd mân afiechydon yn cyfrif am:

Mae mân afiechydon wedi cynyddu'n sydyn yn 2022 i bron yr un gyfran o achosion o absenoldeb salwch â chyn pandemig COVID-19 yn 2019.

Mae'n bwysig i gyflogwyr ddeall a chydymffurfio â'u dyletswyddau iechyd a diogelwch i atal a rheoli lledaeniad heintiau i ddiogelu iechyd eu gweithlu, cleientiaid a'r cyhoedd. Mae rhagor o wybodaeth am ddyletswyddau iechyd a diogelwch ar gael yma.

Drwy weithredu mesurau atal a rheoli effeithiol yn y gweithle, bydd busnesau a chyflogwyr yn:

  • Helpu i atal, rheoli a lleihau lledaeniad heintiau  
  • Diogelu iechyd a llesiant gweithwyr
  • Lleihau'r posibilrwydd o darfu ar y gweithlu yn sgil absenoldeb salwch
  • Lleihau'r effaith gysylltiedig ar gynhyrchiant, targedau a therfynau amser
  • Diogelu eraill fel cleientiaid, ymwelwyr a chontractwyr
  • Lleihau'r risg i enw da

Clefydau Hysbysadwy

O dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (2010), mae nifer o glefydau heintus sy’n hysbysadwy yn ôl y gyfraith.  Os bydd amheuaeth neu gadarnhad o haint hysbysadwy, rhaid i'r meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall roi gwybod i’r awdurdod iechyd cyhoeddus perthnasol. Yng Nghymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a/neu dîm iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol yw hwn. Byddant yn ymchwilio er mwyn nodi unigolion a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r haint neu eu heintio, ac yn rhoi cyngor ar leihau'r risg o drosglwyddo i eraill.

Gall yr ymchwiliad hwn gynnwys casglu gwybodaeth am gysylltiadau (h.y. olrhain cysylltiadau). Fel cyflogwr, mae’n ofynnol i chi ddarparu gwybodaeth berthnasol i helpu i olrhain cysylltiadau os bydd cyflogai neu gyswllt agos cyflogai, contractwr neu ymwelydd â'ch safleoedd gwaith yn cael ei heintio neu wedi dod i gysylltiad â chlefyd hysbysadwy.

Sut Gall Cyflogwyr Weithredu?