Neidio i'r prif gynnwy

Mynychder diabetes - tueddiadau, ffactorau risg, ac amcanestyniadau 10 mlynedd

Rhys Powell, Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk 

Dyddiad cyhoeddi: 14 Tachwedd 2023 

Penawdau

Ers 2009/10 mae nifer yr oedolion 17 oed neu drosodd sy'n byw gyda diabetes wedi cynyddu 40% i 212,716 yn 2021/22 (Fframwaith Canlyniadau Ansawdd, QOF, 2018/19 a Fframwaith Sicrhau Ansawdd a Gwella, QAIF, 2021/22, Llywodraeth Cymru). 

Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, erbyn 2035/36, rydym yn amcangyfrif y bydd tua 1 o bob 11 oedolyn (17+ oed) yn byw gyda diabetes yng Nghymru. Mae hyn yn 260,000 o bobl, cynnydd o bron i 48,000 o bobl (22%) o'i gymharu â 2021/2022.

Mae'r darlun tywyll hwn o ddiabetes yng Nghymru yn llywio ein blaenoriaethau. Rydym yn gweithio gyda'n partneriaid ar draws y system i ddod â'r sylfaen dystiolaeth at ei gilydd er mwyn gweithredu i fynd i'r afael â diabetes a chynorthwyo pobl sy'n byw gyda diabetes. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar atal.  Felly, uchelgais y system iechyd cyhoeddus yw adeiladu ar ei hystod bresennol o raglenni i:

  • troi’r gornel a rhwystro'r nifer cynyddol o achosion o Ddiabetes math 2 

  • cael mwy o bobl yn byw'n dda gyda diabetes fel y mesurir trwy ostyngiad yn y nifer sy’n gorfod cael torri aelod i ffwrdd a llwybrau diabetes eraill. 

Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am y rhaglen hon wrth iddi fynd yn ei blaen. 

Ar y tudalennau hyn 

  • dadansoddiad: mynychder diweddaraf diabetes a'i ffactorau risg yng Nghymru, ac amcanestyniadau 10 mlynedd 

  • camau gweithredu: crynodeb o'r camau y mae'r system iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn eu cymryd ar hyn o bryd i ymdrin â diabetes a'i ffactorau risg 

  • unigolion: mae gwybodaeth i unigolion am symptomau, triniaeth ac atal diabetes ar ein tudalen pwnc diabetes 

  • data: lawrlwythwch y data yn yr erthygl hon.

Adrannau

  1. Beth yw diabetes?

  2. Mynychder diabetes

  3. Effaith diabetes ar y GIG

  4. Marwolaethau diabetes

  5. Amcanestyniadau diabetes

  6. Ffactorau risg ar gyfer Diabetes math 2

  7. Pa gamau y mae'r system iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn eu cymryd i ymdrin â diabetes a'i ffactorau risg

  8. Dolenni defnyddiol

  9. Ffeiliau data

 

1. Beth yw diabetes? 

Mae diabetes math 1 yn cyfrif am oddeutu 8% o achosion yn y DU (How many people in the UK have diabetes? 2021/22, Diabetes UK, Saesneg yn unig). Mae'n gyflwr gydol oes, lle mae system imiwnedd y corff yn ymosod ac yn dinistrio'r celloedd sy'n cynhyrchu inswlin. Mae inswlin yn helpu i reoli cyflenwad egni'r corff. Gyda diabetes math 1, dim ond newidiadau ymddygiad cyfyngedig y gallwch eu gwneud i leihau eich risg. 

Mae Diabetes math 2 yn cyfrif am oddeutu 90% o achosion yn y DU (How many people in the UK have diabetes? 2021/22, Diabetes UK, Saesneg yn unig). Gyda Diabetes math 2, nid yw'r corff yn cynhyrchu digon o inswlin, neu nid yw celloedd y corff yn ymateb i inswlin yn iawn. Gallwch leihau'r risg o gael Diabetes math 2 trwy fwyta'n iach, ymarfer corff rheolaidd a chynnal pwysau corff iach. Efallai y bydd yn bosibl lleddfu Diabetes math 2 drwy golli pwysau hefyd (Saesneg yn unig).

Mae mathau eraill o ddiabetes yn fwy prin ac yn cyfrif am y 2% sy'n weddill. 

Mwy o wybodaeth ar gyfer pobl sy'n byw gyda diabetes neu sydd mewn perygl ohono: 

 

2. Mynychder diabetes  

Yn 2021/22, cafodd bron i un o bob 12 o bobl 17+ oed ddiagnosis o ddiabetes Math 1 neu Fath 2 yng Nghymru (8.0%). Mae mynychder yn amrywio yn ôl y Bwrdd Iechyd (Ffigurau 1 a 2). Bydd rhywfaint o'r amrywiad hwnnw'n adlewyrchu gwahaniaethau ym mhroffiliau oedran a rhyw poblogaethau'r Bwrdd Iechyd. Er enghraifft, mae poblogaeth gymharol ifanc Caerdydd yn ffactor yn ei nifer cymharol isel. Mae amddifadedd yn ffactor mewn mynychder diabetes hefyd.

Mae mynychder diabetes yn uwch ymhlith pobl hŷn, ac ar gyfer dynion ar draws pob grŵp oedran (Ffigur 3). Yn 2021/22 roedd mwy na 210,000 o oedolion (17+ oed) yn byw gyda diabetes yng Nghymru.

Bu cynnydd cyson yn nifer yr oedolion â diabetes yng Nghymru, cynnydd o bron i 60,000 o bobl (40%) dros gyfnod o 12 mlynedd hyd at 2021/22 (Ffigur 4). Mae'r cynnydd hwn yn bennaf oherwydd cynnydd mewn Diabetes math 2. 

 

Ffigur 1: canran y cleifion cofrestredig 17+ oed sydd â diabetes yng Nghymru, yn ôl Bwrdd Iechyd. Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro sydd â'r gyfradd isaf, 6.6%, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yr uchaf, 8.7%. Sylwch nad yw'r cyfraddau hyn wedi'u haddasu ar gyfer oed neu rhyw, a bydd gwahaniaethau rhwng y Byrddau Iechyd yn rhannol oherwydd gwahaniaethau ym mhroffiliau’r boblogaeth. QAIF, 2021/22, Llywodraeth Cymru 

 

Ardal Nifer yr achosion / y cant o'r boblogaeth 17+ oed
BIP Aneurin Bevan 8.7
BIP Cwm Taf Morgannwg 8.6
BIP Hywel Dda  8.4
BIP Betsi Cadwaladr 7.9
BIA Powys 7.8
BIP Bae Abertawe 7.8
BIP Caerdydd a'r Fro 6.6
Cymru 8.0

Ffigur 2: canran y cleifion cofrestredig 17 oed a hŷn sydd â diabetes yng Nghymru, yn ôl y Bwrdd Iechyd, QAIF 2021/22, Llywodraeth Cymru 

 

Ffigur 3: Mae nifer yr achosion o ddiabetes yn uwch ymhlith pobl hŷn, ac ar gyfer dynion. QAIF, 2021/22, Llywodraeth Cymru 

 

Ffigur 4: cynyddodd nifer yr oedolion (17+) sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru bron i 60,000 o bobl rhwng 2009/10 a 2021/22. Mae hyn yn gynnydd o bron i 40%. QOF, 2018/19 a QAIF, 2021/22, Llywodraeth Cymru

 

3. Effaith diabetes ar y GIG 

Costiodd diabetes bron i £14 biliwn i’r DU yn 2021/22, gan gynnwys mwy na £10 biliwn o gostau uniongyrchol i’r GIG, yn ôl canfyddiadau’r York Health Economics Consortium (Estimation of the direct health and indirect societal costs of diabetes in the UK using a cost of illness model).

Gwariant ar bresgripsiynau

Mae cost a nifer y meddyginiaethau a ragnodir ar gyfer trin diabetes wedi bod yn cynyddu’n raddol dros y 10 mlynedd diwethaf. Mae 12.8% o gyfanswm gwariant meddyginiaethau GIG Cymru yn feddyginiaethau a ddefnyddir ar gyfer diabetes o’i gymharu â 9.8% yn 2014/15 (Dadansoddiad Presgripsiynu Gofal Sylfaenol – Meddyginiaethau a Ddefnyddir mewn Diabetes, Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC)). Disgrifir cost cyffuriau fel mater o drefn gan ddefnyddio'r mesur cost cynhwysion net (NIC). NIC yw cost y cyffur cyn gostyngiadau ac nid yw'n cynnwys costau na ffioedd gweinyddu. Yn ôl data gan Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru, rhwng 2018/19 a 2023/24, cododd NIC presgripsiynau mewn perthynas â diabetes 56 y cant o £57.8 miliwn i £90.4 miliwn - gweler ffigur 5.

Mae’r cynnydd mewn costau rhagnodi wedi’i ysgogi’n rhannol gan gynnydd yn y nifer sy’n cael eu rhagnodi. Yn 2023/24 adroddwyd bod 4 miliwn o eitemau yn cael eu rhagnodi ac yn dilyn hynny eu gweithredu yn y gymuned wedi hynny mewn perthynas â meddyginiaethau a ddefnyddir i drin diabetes. Mae hyn yn gynnydd o 0.8 miliwn o eitemau (25%) o’i gymharu â 2018/19 (gan dybio bod 3.2 miliwn o eitemau yn 2018/19) - gweler ffigur 5.

Ffigur 5, cost cynhwysion net a nifer yr eitemau a ragnodwyd ar gyfer trin diabetes (Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol GIG Cymru, Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan)

Derbyniadau i'r ysbyty 

Mae pobl sy'n byw gyda diabetes yn fwy tebygol o gael eu derbyn i'r ysbyty na'r rhai nad ydynt yn byw gyda diabetes. Ar draws pob oedran, mae tua 1 o bob 15 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes. Ond, yn 2021/22, derbyniwyd mwy nag un o bob deg claf mewnol (11%) fel cleifion â diabetes (‘mae hyn yn cynnwys derbyniadau lle nad diabetes neu gymhlethdodau cysylltiedig â diabetes oedd y prif ddiagnosis). Yn 2019/20, roedd mwy nag un o bob pump o’r holl dderbyniadau i’r ysbyty ar gyfer pobl 65 oed neu hŷn yn cynnwys diabetes fel diagnosis sylfaenol neu eilaidd (Cronfa Ddata Cyfnodau Gofal Cleifion Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru). Yn ôl data rheoli mewnol GIG Cymru sydd heb eu dilysu, roedd dros 90,000 o dderbyniadau cysylltiedig â diabetes yn GIG Cymru yn 2021/22.

Cymhlethdodau diabetes - trychiadau i'r aelod isaf

Gall diabetes achosi llawer o gymhlethdodau sy'n arwain at golli golwg, methiant yr arennau, trawiad ar y galon, strôc a thrychiadau i'r aelod isaf (Complications of Diabetes 2017). Mae colli aelodau yn gymhlethdod difrifol. Mae cyfraddau marwolaethau ar ôl trychiad yn waeth na'r rhai ar gyfer y rhan fwyaf o ganserau (Five year mortality and direct costs of care for people with diabetic foot complications are comparable to cancer). Yn ôl ymchwil a gyhoeddwyd yn 2019, amcangyfrifwyd bod cost gofal iechyd ar gyfer wlserau a thrychiadau ym maes diabetes yn 2014-2015 ar gyfer GIG Lloegr [LN1] rhwng £837 miliwn a £962 miliwn.  Mae hyn yn cynrychioli 0.8% i 0.9% o gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar gyfer Lloegr. Roedd mwy na 90% o'r gwariant yn ymwneud ag wlserau, a 60% ar gyfer lleoliadau cymunedol, cleifion allanol a gofal sylfaenol. Ar gyfer cleifion mewnol, roedd gwaith dadansoddi’n awgrymu bod wlserau’n gysylltiedig â hyd arhosiad 8 diwrnod yn hwy nag ar gyfer derbyniadau diabetes heb wlserau (The cost of diabetic foot ulcers and amputations to the NHS in England).

Mae'r Archwiliad Diabetes Cenedlaethol yn casglu data ar drychiadau mawr (uwchben y ffêr) a mân (wrth neu o dan y ffêr) aelodau isaf. Gan fod nifer y trychiadau a wneir yng Nghymru yn isel, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli tueddiadau. Arhosodd y duedd ar gyfer trychiadau mawr yn aelodau o'r corff ymhlith pobl sy'n byw gyda diabetes Math 1 yn gyson rhwng 2009 a 2022 gan amrywio rhwng 15 a 30 o driniaethau bob blwyddyn yng Nghymru. Dros yr un cyfnod, roedd y duedd ar gyfer mân drychiadau hefyd yn sefydlog, gan amrywio o 30 i 65 o driniaethau bob blwyddyn yng Nghymru . Ar gyfer pobl sy'n byw gyda diabetes Math 2 mae'r gyfradd risg gyfunol wedi aros yn weddol sefydlog dros y ddegawd ddiwethaf.  Mae nifer y trychiadau mawr wedi gostwng ers uchafbwynt yn 2019. Cododd nifer y trychiadau mawr a mân yr adroddwyd amdanynt rhwng 2009 a 2013.  Mae newidiadau i arferion clinigol, o ganlyniad i ganoli gwasanaethau fasgwlaidd, wedi cael effaith ar ansawdd data dros y cyfnod hwn. Mae'r cynnydd yn adlewyrchu'n bennaf y cynnydd yng nghyfran y triniaethau a adroddwyd, yn hytrach na chynnydd yn y gyfradd risg sylfaenol wirioneddol.

Ffigur 6: Trychiadau mawr aelodau isaf, nifer yr achosion, cyfradd risg fesul 1000, diabetes Math 2, Cymru (Ffynhonnell: Archwiliad Diabetes Cenedlaethol)

 

Ffigur 7 Mân drychiadau aelodau isaf, nifer yr achosion, cyfradd risg fesul 1000, diabetes Math 2, Cymru (Ffynhonnell: Archwiliad Diabetes Cenedlaethol)

 

4. Marwolaethau diabetes 

Diabetes sydd â'r gyfradd marwolaethau gormodol uchaf ond un wrth safoni yn ôl oedran, ar ôl methiant y galon a chymhlethdodau (Monthly mortality analysis, England and Wales, July 2023, ONS, Saesneg yn unig). Marwolaethau gormodol yw'r gyfradd marwolaethau bresennol heb y gyfradd marwolaethau cyfartalog y 5 mlynedd flaenorol. Mae marwolaethau gormodol yn dangos bod cyfraddau marwolaethau yn cynyddu. Mae hyn yn golygu bod marwolaethau sy'n gysylltiedig â diabetes yn cynyddu. Yn y rhan fwyaf o fisoedd ers dechrau 2020, mae'r gyfradd marwolaethau wedi'u safoni yn ôl oedran gydag unrhyw sôn am ddiabetes ond heb gynnwys Covid-19, wedi bod yn uwch na gwerth cyfartalog y 5 mlynedd flaenorol, ac eithrio 2020 (Ffigur 8). Gan fod y rhain yn gyfraddau safonedig yn ôl oedran, ni ellir priodoli'r marwolaethau cynyddol i'r boblogaeth sy'n heneiddio, er bod hyn yn debygol o gael effaith ar y cyfraddau heb eu safoni. Mae 'unrhyw sôn' am ddiabetes yn golygu bod diabetes yn cael ei grybwyll ar y dystysgrif farwolaeth ond efallai nad dyma brif achos y farwolaeth. 

Mae diabetes yn ffactor risg ar gyfer clefyd y galon ischaemig (coronaidd) hefyd, prif achos marwolaeth yng Nghymru, gan gyfrif am bron i un o bob 10 (9.6%) o'r holl farwolaethau ym mis Gorffennaf 2023. (Monthly mortality analysis, England and Wales, July 2023, ONS, Saesneg yn unig

Mae Ffigur 9 yn dangos bod y rhan fwyaf o'r cynnydd hwnnw wedi bod o gynnydd mewn marwolaethau ymysg pobl dros 75 oed yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Fodd bynnag, mae rhai arwyddion bod cyfraddau marwolaeth y rhai dan 75 oed yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cynyddu. Ystyrir bod modd osgoi pob marwolaeth o ddiabetes i bobl o dan 75 oed, hynny yw, y gellir ei atal neu ei drin, er na fydd hyn o reidrwydd yn wir am farwolaethau gydag unrhyw sôn am ddiabetes, lle nad diabetes yw'r prif achos (Avoidable mortality by Clinical Commissioning Groups in England and Health Boards in Wales: 2001 to 2020, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Saesneg yn unig). 

 

Ffigur 8 mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â diabetes yn cynyddu. Ers mis Gorffennaf 2021, mae'r gyfradd marwolaethau ag unrhyw sôn am ddiabetes (ac eithrio COVID) wedi’i safoni yn ôl oedran wedi bod yn gyson uwch na'r gyfradd gymharu. Mae'r rhain yn gyfraddau Ewropeaidd (EASR) wedi’u safoni yn ôl oedran ar gyfer marwolaethau gydag unrhyw sôn am ddiabetes, ac eithrio Covid-19. Y gyfradd gymharu yw'r gwerth cymedrig ar gyfer y 5 mlynedd flaenorol, ac eithrio 2020. Marwolaethau Iechyd y Cyhoedd, Amcangyfrifon Poblogaeth Canol Blwyddyn, Y Swyddfa Ystadegau Gwladol

 

Ffigur 9: marwolaethau gydag unrhyw sôn am ddiabetes, cyfraddau Ewropeaidd wedi’u safoni yn ôl oedran (EASR) fesul 100,000. Ochr chwith: y pumed mwyaf difreintiedig. Ochr dde: y pumed lleiaf difreintiedig. Brig: pob oedran, gwaelod: dan 75 mlwydd oed. Glas tywyll: nid yw Covid-19 yn achos sylfaenol. Glas golau: Covid-19 yw achos sylfaenol marwolaeth. Mae'r cynnydd mewn marwolaethau gydag unrhyw sôn am ddiabetes yn llai amlwg yn y boblogaeth dan 75 oed, er bod rhai arwyddion eu bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nid yw Covid-19 yn cyfrif am y cynnydd mewn marwolaethau. Mae'r gwahaniaeth EASR rhwng y pumedau mwyaf a lleiaf difreintiedig wedi mwy na dyblu o 37 fesul 100,000 yn 2002 i 87 fesul 100,000 yn 2022 

 

5. Amcanestyniadau diabetes 

Ein hamcangyfrif canolog, os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, erbyn 2035/36, bydd bron i 48,000 yn fwy o bobl yn byw gyda diabetes nag yn 2021/2022, cynnydd o 22% i 260,000 o bobl. Mae hyn yn tybio bod yr amodau a'r rhagdybiaethau presennol yn parhau heb newid. Er enghraifft, nid ydym yn cynnwys effaith Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan  yn y dyfodol yn ein modelau. 

Rydym wedi modelu tair senario (Ffigur 10), pob un ohonynt yn amcangyfrifon o gyfrif pobl o bob oed â diabetes (Math 1 a Math 2) yng Nghymru:

  • cyfrif isel - yn tybio bod cyfradd mynychder diabetes 2021/22 o 6.5% yn parhau'n gyson tan 2035/36. Caiff hyn ei luosi gan amcangyfrif poblogaeth y bobl sydd wedi cofrestru gyda meddygon teulu yng Nghymru yn 2035/36 

  • cyfrif canolig (amcangyfrif canolog) – amcangyfrifiadau’n cael eu gwneud gan ddefnyddio model ARIMA (Saesneg yn unig) ar sail y data a arsylwyd, 2009/10 i 2021/22 

  • cyfrif uchel – rhagwelir cyfraddau mynychder gan ddefnyddio model ARIMA ar sail y data a arsylwyd, ac mae hyn yn cael ei luosi gan amcangyfrif poblogaeth y bobl sydd wedi cofrestru gyda meddygon teulu yng Nghymru yn 2035/36. 

Heb weithredu pellach, mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd y gyfradd fynychder bresennol yn aros yn gyson (model cyfrif isel). Mae'r model cyfrif uchel achos gwaethaf yn amcangyfrif y bydd 67,000 yn fwy o bobl yn byw gyda diabetes yn 2035/36 nag yn 2021/22, cynnydd o bron i draean (32%). 

 

Ffigur 10: Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, mae ein hamcanestyniad canolog yn amcangyfrif y gallai 40,000 o bobl ychwanegol fod yn byw gyda diabetes erbyn 2035/36. Amcanestyniad isel: mae'r gyfradd achosion bresennol yn parhau i fod yn gyson, wedi'i chymhwyso i amcanestyniadau poblogaeth meddygon teulu; amcanestyniad canolog: rhagolwg cyfres amser (model ARIMA) wedi'i seilio ar y cyfrifiadau a arsylwyd (QOF a QAIF, Llywodraeth Cymru); amcanestyniad uchel: rhagolwg cyfres amser o gyfraddau pobl â diabetes, a gymhwysir i amcanestyniadau poblogaeth meddygon teulu. Gweler Adran 5 am ragor o fanylion. 

 

6. Ffactorau risg ar gyfer Diabetes math 2

Mae ffactorau risg ar gyfer Diabetes math 2 yn gymysgedd o ffactorau y gellir eu newid (addasadwy) a'r rhai na ellir eu newid (anaddasadwy). Mae atal iechyd y cyhoedd yn canolbwyntio ar y ffactorau risg addasadwy. 

Mae'r ffactorau risg yn cynnwys: 

  • Byw gyda gormod o bwysau a gordewdra 

  • Diffyg deiet iach 

  • Hanes o Ddiabetes math 2 yn y teulu 

  • Tarddiad Asiaidd, Affricanaidd Du neu Affricanaidd Caribïaidd 

  • Cymryd meddyginiaethau penodol megis steroidau am amser maith 

  • Pwysedd gwaed uchel 

  • Diabetes yn ystod beichiogrwydd. 

 

Gordewdra

Mae oedolion sy'n nodi eu bod yn ordew (mynegai màs y corff, BMI, o 30 neu fwy) fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fod â diabetes (8.2%) na'r rhai nad ydynt (3.6%, Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2022/23, Llywodraeth Cymru). 

Dywedodd mwy nag un o bob pedwar oedolyn (16+ oed) eu bod yn byw gyda gordewdra yn 2021/22. Mae hyn wedi cynyddu'n gyson ers 2003/4, er na allwn gymharu'r canlyniadau ar gyfer 2003/4 a 2022/23 yn uniongyrchol, oherwydd newidiadau ym methodoleg yr arolygon a ddefnyddiwyd i gasglu'r data.(Arolwg Iechyd CymruArolwg Iechyd Cymru, 2021/22,Llywodraeth Cymru)

Mae ffigurau 11 ac 12 yn dangos bod bron i un o bob tri o bobl rhwng 45 a 64 oed yng Nghymru (31%) yn byw gyda gordewdra yn 2021/22. Mae Ffigur 13 yn dangos bod oedolion yn y pumed ran o ardaloedd mwyaf difreintiedig tua 50% yn fwy tebygol o fod yn byw gyda gordewdra na'r rhai yn y pumed ran lleiaf difreintiedig. (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2021/22, Llywodraeth Cymru

Gweithgarwch corfforol 

Fel y dangosir yn Ffigur 14, nododd dros draean (35%) o fenywod rhwng 45 a 65 oed ac un rhan o dair (33%) o ddynion rhwng 45 a 65 oed eu bod yn anweithgar yn gorfforol yn 2021/22. Mae oedolion yn y pumed ran o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn anweithgar yn gorfforol nag yn y pumed ran lleiaf difreintiedig. Diffinnir anweithgarwch corfforol fel gwneud llai na 30 munud o ymarfer corff yn yr wythnos flaenorol (Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2021/22, Llywodraeth Cymru). 

 

Ffigur 11: mae canran y dynion 16 oed neu'n hŷn sy'n byw gyda gordewdra yng Nghymru wedi cynyddu ers 2003/4. Dywedodd bron i un o bob tri dyn rhwng 45 a 64 oed eu bod yn byw gyda gordewdra (BMI 30+) yn 2021/22. Arolwg Iechyd CymruArolwg Iechyd Cymru, 2021/22, Llywodraeth Cymru.

 

Ffigur 12: mae canran y menywod 16 oed neu'n hŷn sy'n byw gyda gordewdra (BMI 30+) yng Nghymru wedi bod yn cynyddu'n gyson ers 2003/4. Dywedodd bron i un o bob tair menyw rhwng 45 a 64 oed eu bod yn byw gyda gordewdra yn 2021/22. Arolwg Iechyd Cymru, Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2021/22, Llywodraeth Cymru. 

  

Ffigur 13: mae oedolion sy'n byw yn y pumed ran o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru tua 50% yn fwy tebygol o fod yn byw gyda gordewdra na'r rhai yn y pumed ran lleiaf difreintiedig. Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2021/22, Llywodraeth Cymru. 

 

Ffigur 14: Dywedodd dros draean (35%) o ferched rhwng 45 a 64 oed a thraean (33%) dynion rhwng 45 a 64 oed eu bod yn anweithgar yn gorfforol yn 2021/22. Mae oedolion yn y pumed ran o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn anweithgar yn gorfforol nag yn y pumed ran lleiaf difreintiedig. Diffinnir anweithgarwch corfforol fel gwneud llai na 30 munud o ymarfer corff yn ystod yr wythnos flaenorol. Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2021/22, Llywodraeth Cymru.  

 

7. Pa gamau mae'r system iechyd cyhoeddus yng Nghymru yn eu cymryd i ymdrin â diabetes a'i ffactorau risg?

Mae mynychder presennol diabetes yng Nghymru yn cael effaith ar ansawdd bywyd pobl ac yn rhoi pwysau ar y system iechyd. Mae'r amcanestynidau’n dangos, heb newid, y bydd bywydau mwy o bobl yn cael eu heffeithio, a bydd y pwysau ar y system yn cynyddu. 

Felly, uchelgais y system iechyd cyhoeddus yw adeiladu ar ei hystod bresennol o raglenni i:

  • troi’r gornel a rhwystro mynychder cynyddol diabetes 

  • bod â mwy o bobl yn byw'n dda gyda diabetes, wedi'i fesur drwy leihau achosion o dorri aelod i ffwrdd a llwybrau diabetes eraill. 

Nid yw hyn yn amhosibl. Gallai dros hanner yr achosion o Ddiabetes math 2 gael eu hatal neu eu gohirio, drwy gynorthwyo pobl i wneud newidiadau ymddygiadol (Sut i atal Diabetes math 2, Diabetes UK, Saesneg yn unig).  Yn ogystal a'r lwybrau ac rhaglenni presonnol, ein hymagwedd yw huawdl dull system gyfan i gyflawni yr uchelgeisiau yma, gyda ffocws ar optimeiddio rheoliad glwcos yn y gwaed.

I'r rhai sydd eisoes wedi datblygu Diabetes math 2, dangosodd y Treial Clinigol Lleddfu Diabetes (DiRECT, Lean et al, 2019, Saesneg yn unig) y gall rheoli pwysau leddfu Diabetes math 2. Yn dilyn y rhaglen rheoli pwysau, canfu'r treial fod diabetes dros draean o'r cyfranogwyr (36%) wedi’i leddfu ddwy flynedd yn ddiweddarach, a bod diabetes dwy ran o dair o'r rhai a gollodd 10 cilogram neu fwy wedi’i leddfu ar ôl dwy flynedd. Arweiniodd y rhaglen rheoli pwysau at lai o angen am feddyginiaethau diabetes ac ansawdd bywyd gwell hefyd o gymharu â gofal safonol. 

Llwybr atal diabetes 

Mae'r llwybr atal diabetes yn nodi'r gwahanol feysydd lle gallai ymyriadau ddigwydd i atal diabetes, a ddangosir yn Ffigur 15. Rôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, fel y'i mynegwyd yn ein  Strategaeth Hirdymor 2023 i 2035, yw hysbysu, eirioli, symbylu a chyflawni. Bydd pob un o'r meysydd ymyrraeth yn gofyn am gymysgedd gwahanol o'r pedwar math o weithgarwch er mwyn cyflawni canlyniadau lefel system.

Ffigur 15: y llwybr atal diabetes, sy'n dangos meysydd ar gyfer atal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol 

 

Rhaglen Atal Diabetes Cymru Cyfan 

Mae'r Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan (AWDPP), a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a arweinir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn targedu pobl sydd â risg uwch o Ddiabetes math 2. Yn y rhaglen, mae gweithwyr gofal iechyd sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig, gyda chefnogaeth deietegwyr, yn cynnig ymgynghoriad 30 munud i bobl y nodwyd eu bod mewn mwy o berygl o ddatblygu diabetes trwy brawf gwaed. Prawf HbA1c yw'r prawf gwaed, sy'n mesur lefelau siwgr gwaed (glwcos) cyfartalog unigolyn, dros y ddau i dri mis diwethaf. Yn yr ymgynghoriad, bydd y gweithiwr gofal iechyd yn siarad â phobl am yr hyn y gallant ei wneud i leihau eu risg o ddatblygu Diabetes math 2. Gallant eu cyfeirio at ffynonellau cymorth ychwanegol hefyd. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cael ei ddilyn gydag apwyntiad arall 12 mis yn ddiweddarach.  

Bydd cam cyntaf y AWDPP yn cael ei gyflwyno erbyn mis Mawrth 2024. Mae dau glwstwr gofal sylfaenol (grwpiau o feddygon teulu, fferyllwyr, optegwyr a deintyddion ac ati sy'n gwasanaethu poblogaeth leol) fesul Bwrdd Iechyd yn rhan o'r broses gyflwyno a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae rhai Byrddau Iechyd wedi dewis ariannu'r broses gyflwyno mewn clystyrau ychwanegol ar yr un pryd hefyd. Bydd y rhaglen yn cael ei gwerthuso wrth i'r cyflwyno gael ei weithredu. 

Mae mwy o wybodaeth am gyflwyno’r rhagleni'w gweld ar dudalennau gwe Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan.

Pwysau Iach, Cymru Iach – llwybrau rheoli pwysau Cymru gyfan 

Pwysau Iach: Cymru Iach yw cynllun cyflawni Llywodraeth Cymru i atal a lleihau gordewdra.

Fel rhan o'r strategaeth honno, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cynnig gwybodaeth am Bwysau Iach, ac mae wedi datblygu Pwysau’n Iach Byw’n Iach, casgliad o wybodaeth ac adnoddau i helpu pobl i gyflawni a chynnal pwysau iach. Mae’r adnoddau’n cynnwys  Dod o hyd i’ch siwrnai,adnodd sy'n teilwra cyngor i’ch anghenion.

 

8. Dolenni defnyddiol 

 

9. Ffeiliau data

Rydym yn ymwybodol y gall fod problemau wrth lawrlwytho'r ffeiliau data yn Microsoft Edge.  Os hoffech gael y data, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio porwr gwahanol, defnyddiwch 'Cadw fel' os yw'r data'n agor mewn tab ar-lein neu cysylltwch â ni yn Publichealthwalesobservatory@wales.nhs.uk

Lawrlwythwch y data yn yr erthygl hon - Excel

Lawrlwythwch y data yn yr erthygl hon - CSV