Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan

Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn cynnig cymorth wedi'i dargedu i bobl sy'n wynebu risg uwch o ddiabetes math 2, gyda'r nod o'u hatal rhag datblygu'r cyflwr hwn.

Mae dros 200,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes, ac mae gan naw o bob 10 ohonynt ddiabetes math 2. Mae hwn yn gyflwr difrifol, ac weithiau'n gyflwr gydol oes. Mae’n un o brif achosion colli golwg ac yn cyfrannu'n helaeth at fethiant yr arennau, trawiad ar y galon a strôc. Mae diabetes math 2 yn cael effaith ddifrifol ar unigolion a'u teuluoedd. Mae cost ariannol hefyd: mae trin diabetes math 2 yn cyfrif am tua 10% o gyllideb flynyddol y GIG.

Yn wahanol i ddiabetes math 1, gellir atal diabetes math 2. Mae tystiolaeth yn awgrymu, drwy gefnogi pobl i wneud newidiadau o ran ffordd o fyw, gellid atal dros hanner yr achosion o ddiabetes math 2. Wedi'i datblygu'n genedlaethol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'i chyflwyno'n lleol gan weithwyr cymorth gofal iechyd penodedig ac arweinwyr deietig sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol, mae'r rhaglen yn cefnogi pobl sy'n wynebu risg uwch o ddiabetes math 2 i wneud newidiadau i'w deiet a bod yn fwy egnïol yn gorfforol.

Yn ei cham cyntaf, mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan yn cael ei chyflwyno mewn o leiaf dau glwstwr gofal iechyd sylfaenol ym mhob un o saith ardal bwrdd iechyd Cymru. Bydd y rhaglen yn destun gwerthusiad parhaus, a bydd yr hyn a ddysgir o'r cam cyntaf hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio'r gwaith o'i chynllunio a'i chyflwyno wrth symud ymlaen.

 

 

Adroddiadau